麻豆官网首页入口

Y darpar Archdderwydd am drafod Gorsedd y Beirdd

  • Cyhoeddwyd
Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Myrddin ap Dafydd yn holi a ydy hi'n bryd i'r Orsedd foderneiddio

Wrth iddo baratoi i arwain Gorsedd y Beirdd am y tair blynedd nesaf, mae'r darpar Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wedi holi a ydy hi'n bryd iddi gael ei diwygio.

Mewn cyfweliad ar raglen Manylu 麻豆官网首页入口 Radio Cymru mae Mr ap Dafydd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd yr Orsedd, sy'n cynrychioli traddodiad sy'n mynd yn 么l 3,000 o flynyddoedd.

Ond mae'n dweud bod yr Eisteddfod wedi moderneiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn awgrymu ei bod hi'n bryd i'r Orsedd foderneiddio hefyd.

Mae'r ddau yn sefydliadau ar wah芒n, gyda'r Orsedd yn gyfrifol am brif seremon茂au'r Eisteddfod Genedlaethol - y Coroni, y Cadeirio a'r Fedal Ryddiaith.

Cafodd seremoni'r Coroni a'r Cadeirio ar eu ffurfiau presennol eu llunio yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.

Cafodd yr Orsedd fel yr ydym ni'n ei hadnabod hi ei sefydlu gan Iolo Morgannwg, bardd a ffigwr llenyddol cynhyrchiol o'r 18fed ganrif.

Dywed Myrddin ap Dafydd fod Cylch yr Orsedd yn deillio o draddodiad sy'n llawer h欧n, o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid 2,000 o flynyddoedd yn 么l.

"Roedd diwylliant y derwyddon yn un llafar... mi wyddai'r Rhufeiniaid o ddileu'r derwyddon mi fydden nhw'n dileu cof y Celtiaid... a'u troi nhw'n Lladinwyr.

"Ond mae'r ffaith bod 'na gylch o feini yn fan hyn yn dangos 'na wnaeth cynllun y Rhufeiniaid weithio."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Orsedd sy'n gyfrifol am brif seremon茂au'r Eisteddfod Genedlaethol

Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy y flwyddyn nesaf, fe fydd yr Eisteddfod yn dathlu 200 mlwyddiant ei chysylltiad 芒'r Orsedd.

Mae rhai wedi awgrymu bod elfennau o'r seremon茂au yn hen ffasiwn ac anacronistaidd.

Dywedodd Gruffudd Owen, enillydd y Gadair yn Eisteddfod Caerdydd, bod rhai elfennau o'r seremoni yn gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.

"Y syniad o Fam y Fro a Morwyn y Fro yn benodol.

"Hynny 'di fod gennych chi un wraig yna yn seiliedig ar y ffaith ei bod hi'n cenhedlu plant, ac wedyn fod ganddoch chi ferch sydd yn forwyn fel petai.

"Does 'na 'run dyn yna yn seiliedig ar hynny," meddai.

Gwahaniaeth barn

Mae rhai yn mynd yn bellach, gyda'r bardd benywaidd ifanc Grug Muse yn galw am newid r么l merched a'r Ddawns Flodau.

"Da ni'n byw mewn cymdeithas lle mae merched ifanc iawn yn cael eu rhywioli, gan fideos cerddoriaeth, gan gyfryngau poblogaidd a dyw hi ddim anodd ei weld o yn y ddawns flodau," meddai.

Ond mae Gruff Meredith, sy'n gyd-olygydd papur newydd y Cymro, yn amddiffyn lle merched yn y seremon茂au.

"Mae jest yn seremoni urddasol, waraidd.

"Dwi ddim yn gweld be' 'di'r broblem," meddai.

"Mae r么l merched yn cael ei ddathlu a'i roi ar bedestal."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Seremoni urddasol neu amherthnasol i'r oes fodern?

Doedd y Cofiadur, y Prifardd Christine James, ddim am drafod unrhyw ddiwygio nes y bydd cyfarfod o Fwrdd yr Orsedd wedi ei gynnal.

Ond fe wnaeth ryddhau datganiad yn dweud: "Mae'r Orsedd yn adolygu ei seremon茂au yn gyson, yn nhrefn arferol cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a'i Is-Baneli, ac ni fydd eleni'n eithriad.

"Rydym yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaed yn y wasg a'r cyfryngau yn ddiweddar, a byddwn yn sicr o roi ystyriaeth ddyledus iddynt yn ein cyfarfod nesaf."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol nad oeddynt am ymateb ar hyn o bryd.

Fe fydd rhaglen Manylu yn cael ei darlledu ar Radio Cymru a 麻豆官网首页入口 Radio Cymru 2 am 12:30.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw