麻豆官网首页入口

Ffynnonbedr: Cwmni yn ennill ap锚l tai fforddiadwy

  • Cyhoeddwyd
Ffynnon Bedr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bwriad yw dymchwel Ysgol Gynradd Ffynnonbedr

Fe fydd yn rhaid i Gyngor Ceredigion dalu costau ar 么l i arolygydd cynllunio wrthdroi penderfyniad i beidio rhoi caniat芒d i gwmni godi fflatiau ar safle hen ysgol yn Llanbedr Pont Steffan.

Fis Ebrill cafodd cais Hacer Development i ddymchwel Ysgol Gynradd Ffynnonbedr a chodi cartrefi cymdeithasol ei wrthod gan bwyllgor cynllunio, a hynny'n groes i argymhellion swyddogion cynllunio'r sir.

Yn dilyn apel gan y cwmni, penderfynodd yr Arolygydd Cynllunio wrthdroi'r penderfyniad gan ddyfarnu costau llawn i Hacer Development.

Dyw'r union gost heb ei ddyfarnu eto.

Roedd nifer o bobl leol wedi gwrthwynebu'r datblygiad gan ddweud y byddai'n cael effaith negyddol ar yr ardal.

Doedd yr ysgol, sy'n dyddio 'n么l i'r 19eg ganrif, ddim yn adeilad rhestredig.

Dywedodd yr arolygydd Janine Townsley fod y datblygiad o 20 o gartrefi fforddiadwy yn un addas.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cais cynllunio gwreiddiol ei wrthod ym mis Ebrill

Ychwanegodd fod y pwyllgor cynllunio wedi methu a chyflwyno rhesymau ar sail cynllunio i fynd yn groes i farn y swyddogion.

"Mae hynny gyfystyr ag ymddygiad afresymol sydd wedi arwain at y gost yma o gynnal ap锚l," meddai adroddiad Ms Townsley.

Gwnaed cais i Gyngor Ceredigion am sylw.

Dywedodd Tai Wales & West, fydd yn gyfrifol am reoli'r safle newydd, eu bod yn gobeithio y bydd y gwaith ar y safle yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn.

"Rydym yn deall pryderon trigolion lleol ac wrth i'r datblygiad fynd rhagddo byddwn yn gwneud ein gorau i leihau effaith traffig ar y safle, a byddwn yn sicrhau y bydd y datblygiad yn cyd-fynd 芒'r gymuned.

"Fe fydd y cynllun yn darparu tai modern, fforddiadwy i bobl ar y rhestr dai lleol, tai sydd eu gwir angen."