麻豆官网首页入口

Drakeford yn cymharu buddion ynni niwclear 芒 Chernobyl

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod yr wybodaeth sydd wedi ei rannu o'r cyfarfod preifat yn "gwbl unochrog"

Mae un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur yng Nghymru, Mark Drakeford, wedi cymharu buddion economaidd p诺er niwclear gyda thrychinebau Chernobyl a Fukushima.

Dywedodd na fyddai pobl yn byw yn yr ardaloedd yno eisiau clywed mai "dyma'r ffordd mae eich amgylchedd yn cael ei ddiogelu".

Cafodd y sylwadau eu hanelu at aelodau eraill o'r blaid Lafur yn ystod hystings, cyn cael eu rhannu gyda'r 麻豆官网首页入口.

Ond mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi dweud fod y wybodaeth sydd wedi ei rannu am ei sylwadau yn "gwbl unochrog".

Mae Mr Drakeford wedi derbyn beirniadaeth am ei safbwynt "amheuol" tuag at b诺er niwclear.

"Dywedais wrth Eluned mewn dadl flaenorol, mewn ymateb i'w chred hi fod p诺er niwclear yn fantais i'r economi, 'dywedwch hynny wrth y bobl yn Chernobyl, dywedwch hynny wrth bobl Fukushima'," meddai mewn hystings yng Nghasnewydd ddydd Iau.

Wrth ymateb i feirniadaeth gan aelodau o'r gynulleidfa, dywedodd: "Efallai nad ydych chi'n ei hoffi, ond fyddech chi ddim yn ei hoffi petaech chi'n byw yno chwaith, a chlywed mai dyma'r ffordd mae eich amgylchedd yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol."

Yn 么l AC Caerffili, Hefin David, mae angen meddwl yn ofalus yngl欧n 芒'r geiriau sy'n cael eu defnyddio mewn amseroedd fel hyn.

"Mae yna elfen o fyrbwylltra yn y gymhariaeth a wnaeth Mark Drakeford, a dwi'n si诺r nad dyma oedd y bwriad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eluned Morgan a Vauhan Gething wedi beirniadu safbwynt Mark Drakeford ar orsaf b诺er Wylfa Newydd yn y gorffennol

Mae Vaughan Gething ac Eluned Morgan wedi dweud yn y gorffennol y gallai ei safbwynt effeithio ar gynlluniau gorsaf b诺er Wylfa Newydd.

Dywedodd Mr Drakeford ar y pryd fod rhaid i ddatblygwyr yr orsaf gymryd cyfrifoldeb am yr effaith ar yr ardal leol, ond bod hynny ddim yn golygu na allai'r orsaf gael ei hadeiladu.

Bydd enillydd y ras i fod yn arweinydd y Blaid Lafur hefyd yn dod yn Brif Weinidog Cymru - ond ni fydd gan yr unigolyn hwnnw bwerau dros orsafoedd ynni o faint Wylfa.

Dywedodd y Prif Weinidog presennol, Carwyn Jones, fod gan Wylfa Newydd y potensial i "drawsnewid economi Cymru".

Cydnabod pwysigrwydd Wylfa

Dywedodd Mr Drakeford: "Ni ddylai unrhyw un ddibynnu ar wybodaeth gwbl unochrog a phleidiol gafodd ei rannu o gyfarfod preifat er mwyn llunio eu barn am unrhyw ymgeisydd yn yr etholiad hwn.

"Rydw i wedi dweud sawl gwaith fy mod i'n cydnabod pwysigrwydd datblygiad Wylfa Newydd ar gyfer Ynys M么n.

"R么l y llywodraeth, os yw'r datblygiad yn mynd yn ei flaen, yw sicrhau fod buddion hir dymor trigolion Ynys M么n yn cael eu gwarchod a bod y datblygwyr yn cyflawni eu holl ddyletswyddau.

"Os ydw i'n Brif Weinidog yna byddaf yn sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau'r canlyniad hwnnw."