Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Toriadau'n arafu'r broses o godi tai newydd
Gallai toriadau i adrannau cynllunio cynghorau ar draws Cymru arafu'r broses o adeiladu tai newydd, gan olygu y bydd llai o gartrefi fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd eu hangen.
Dyna'r rhybudd gan y corff sy'n cynrychioli cynlluniau tai cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru bod y toriadau hefyd yn ei gwneud yn haws i ddatblygwyr leihau'r nifer o dai fforddiadwy, ac iawndal, y maen nhw'n eu cynnig wrth weithio ar ddatblygiadau newydd.
Ond mae'r corff sy'n cynrychioli datblygwyr preifat wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru bod y broses o ganiat谩u ceisiadau cynllunio yn cael ei arafu am fod llai o swyddogion cynllunio yn gweithio i'r cynghorau.
Haneru gwariant
Wrth gynnig am gynlluniau tai newydd mae datblygwyr yn aml yn gorfod gwneud cyfraniad i'r angen lleol am dai fforddiadwy o dan Adran 106 o'r Ddeddf Gynllunio.
Mae tai fforddiadwy yn golygu bod trefniadau yn eu lle i sicrhau fod tai ar gael i bobl sy'n methu fforddio cael mynediad i'r farchnad dai fel arall.
Mae nifer y tai fforddiadwy sy'n cael eu darparu yn dibynnu ar bolisi cynllunio yr awdurdod lleol ynghyd 芒 thrafodaethau gyda'r datblygwr am beth sy'n cael ei ystyried yn rhesymol.
Ers 2010 mae'r swm o arian y mae cynghorau yn gwario ar eu hadrannau cynllunio wedi haneru o 拢159m i 拢77.4m yn 2017-18.
Mae hynny'n golygu fod gwariant y pen ar gynllunio wedi ei gwtogi o 拢53 y pen yn 2010 i 拢25 y llynedd.
Dywedodd prif weithredwr CCC, Stuart Ropke wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Mae cynllunio, fel unrhyw wasanaeth arall o fewn llywodraeth leol, wedi dioddef wrth i lymder frathu.
"Mae hynny'n golygu llai o adnoddau yn aml o fewn awdurdodau lleol. Weithiau llai o sgiliau.
"Mae'r adnodd cynllunio yn bwysig dros ben wrth drafod gyda datblygwyr preifat ar gynlluniau y maen nhw'n eu cynnig.
"Am ein bod yn ddibynnol ar y ddarpariaeth fforddiadwy sy'n dod ochr yn ochr gydag unrhyw ddatblygiad, mae'n fater o bwys sylweddol."
'Calonogol'
Nod Llywodraeth Cymru yw adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy rhwng 2016 a 2021.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n galonogol bod y nifer o dai fforddiadwy sy'n cael eu codi drwy gytundebau cynllunio wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf, ond rydym yn awyddus i gynyddu'r nifer ymhellach wrth i ni weithio tuag at ein hymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
"Rydym yn gweithio'n agos gydag adeiladwyr tai, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai er mwyn cynyddu'r nifer o dai fforddiadwy a thai eraill sydd ar gael yng Nghymru."
Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, mae mwy na 60,500 o aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru.