麻豆官网首页入口

Cwest Carl Sargeant: Carwyn Jones i roi mwy o dystiolaeth

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Carl Sargeant yn Ysgrifennydd Cymunedau cyn iddo golli ei swydd

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cael ei alw'n 么l i roi mwy o dystiolaeth yn y cwest i farwolaeth Carl Sargeant.

Dywedodd y crwner John Gittins ei fod hefyd yn ystyried galw Aelod Cynulliad Llafur, Ann Jones fel tyst.

Mae cyfreithwyr ar ran teulu Mr Sargeant wedi gwneud cais i gael mynediad i gofnodion ff么n Carwyn Jones a'i ymgynghorydd arbennig, Matt Greenough.

Mae cyfreithwyr y Prif Weinidog yn bwriadu gofyn am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad i beidio galw Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, a'i ddirprwy Bernie Attridge i roi tystiolaeth.

O ganlyniad, dywedodd y crwner na fyddai'n bosib dod 芒'r cwest i ben ddydd Gwener bellach, fel oedd y bwriad yn wreiddiol.

Cafwyd tystiolaeth fore Gwener gan un o weinidogion cabinet Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, cyn i Mr Gittins ddweud y byddai'n "briodol" dod 芒 phethau i ben am y tro.

Galw tystion

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd 2017, bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet.

Roedd wedi cael ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol yn erbyn menywod, honiadau yr oedd yn eu gwadu.

Ddydd Mercher clywodd y cwest fod amheuon yngl欧n ag elfennau o dystiolaeth Mr Attridge, oedd wedi beio'r "diswyddiad" am farwolaeth Mr Sargeant.

Ddydd Iau fe wnaeth cyfreithwyr Carwyn Jones gais i'r crwner alw Mr Attridge a Mr Shotton i roi tystiolaeth i'r cwest.

Dywedodd Cathy McGahey QC bod honiadau bod Mr Attridge wedi dweud celwydd wrth y cwest, ac felly bod angen clywed eu tystiolaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Argraff artist o Carwyn Jones yn cael ei holi yn y cwest gan Leslie Thomas QC

Gwrthod hynny wnaeth y crwner, gan ddweud bod "hwn yn gwest am Carl Sargeant".

Ond ddydd Gwener dywedodd Mr Gittins: "Mae Ms McGahey wedi rhoi gwybod i mi'r bore yma ei bod hi wedi cael cais i ofyn am ganiat芒d i'r llys gweinyddol adolygu'r penderfyniad yna."

Ychwanegodd y gallai Mr Jones hefyd gael ei alw i roi rhagor o dystiolaeth i'r cwest.

Ymddiheurodd wrth deulu Carl Sargeant am yr oedi pellach, gan ddweud ei fod eisiau dod 芒'r achos i ben "mor fuan 芒 phosib".

'Ci du wedi ymweld'

Wrth roi tystiolaeth ddydd Gwener, dywedodd Ms Griffiths fod Mr Sargeant yn un o'i "ffrindiau agosaf" a'i fod yn gymeriad "hapus iawn, cyfeillgar iawn".

Ond mewn ymateb i gwestiwn gan y crwner yn gofyn a oedd ganddo ochr "dywyllach", dywedodd: "Oedd, ac fe wnaeth hynny ddechrau dod yn fwy amlwg."

Dywedodd Ms Griffiths ei bod wedi "dyfalu" nad oedd Mr Sargeant "mor gryf [yn feddyliol] ac yr oedd yn portreadu'i hun".

Dywedodd mai'r tro diwethaf iddi ei weld yn cr茂o oedd y mis Awst cyn ei farwolaeth, pan soniodd wrthi am y tro cyntaf am ei iselder.

"Roedden ni'n cael bwyd yn y Bae. Dywedodd wrtha i fod y 'ci du wedi ymweld'."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Lesley Griffiths gadw'i lle yn y cabinet ar y diwrnod y cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo

Dywedodd Ms Griffiths ei bod hi wedi teithio i Gaerdydd ar y tr锚n gyda Mr Sargeant ar 3 Tachwedd, diwrnod ad-drefnu'r cabinet.

Roedd cynnal ad-drefniad o'r cabinet ar ddydd Gwener yn "anarferol iawn" yn ei hun, meddai, ac fe ddechreuon nhw amau y gallai'r ddau ohonyn nhw gael eu diswyddo.

"Fe wnaethon ni sylwi mai ni oedd yr unig ddau ysgrifennydd cabinet oedd yn cael ein galw i Gaerdydd, a bod cydweithwyr wedi cael gwybod dros y ff么n," meddai.

Wrth aros i weld y prif weinidog, dywedodd Ms Griffiths ei bod hefyd wedi sylwi ei bod hi a Mr Sargeant "yn cael ein cadw ar wah芒n".

'Ddim yn yfwr trwm'

Pan ddaeth Mr Sargeant allan o'r cyfarfod ble cafodd ei ddiswyddo, dywedodd Ms Griffiths: "Roeddwn i'n gallu dweud o'i lais ei fod o mewn cyflwr gwael."

Dywedodd ei bod hi'n "bendant" o'r farn y dylai rhyw fath o gefnogaeth fod ar gael ar gyfer gwleidyddion uchel eu proffil sy'n colli eu swyddi yn y fath fodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cwest yn cael ei glywed gan y crwner John Gittins

Mewn ymateb i gwestiwn gan Ms McGahey yn holi a oedd hi'n gwybod beth oedd y "gweithredoedd" a gyfeiriodd Mr Sargeant ato yn ei nodyn cyn iddo farw, dywedodd Ms Griffiths: "Na."

Dywedodd hefyd nad oedd hi erioed wedi clywed adroddiadau am Mr Sargeant yn yfed gormod ac aflonyddu menywod.

'Galw'r prif weinidog yn 么l'

Brynhawn Gwener, dywedodd bargyfreithiwr y teulu Sargeant, Leslie Thomas y byddai'n dymuno clywed mwy o dystiolaeth gan ymgynghorydd arbennig Carwyn Jones, Matt Greenough.

Gofynnodd i'r crwner ddod o hyd i gofnodion negeseuon rhwng Mr Greenough ac Ann Jones AC, a rhai o gofnodion Carwyn Jones.

Dywedodd Mr Thomas hefyd ei fod wedi derbyn e-bost gan Bennaeth Newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru, Garmon Rhys, yn cadarnhau bod y 麻豆官网首页入口 wedi "adrodd bod Carl Sargeant wedi colli ei swydd am y tro cyntaf am 12:23, yn seiliedig ar ffynonellau".

Soniodd hefyd ei fod yn ceisio cael mwy o wybodaeth am "ff么n ar goll" oedd yn berchen i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe.

Yn dilyn saib, dywedodd y crwner y byddai'n gohirio'r cwest: "Dwi nawr yn teimlo y byddai'n briodol i ni ddod 芒'r cwest i ben ar y pwynt yma."

Mewn datganiad, dywedodd un o gyfreithwyr y teulu Sargeant eu bod yn "rhannu siomedigaeth" y crwner nad oedd y cwest ar ben yn dilyn "wythnos hir ac anodd".

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog: "Mae'n addas ac yn briodol fod y cwest yn cael ei gynnal yn deg ac yn agored, a bod y crwner yn ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol sydd ar gael iddo."