Y bleidlais ar gau yn ras arweinyddiaeth Llafur Cymru

Ffynhonnell y llun, NATIONAL ASSEMBLY

Mae'r cyfnod i bleidleisio ar gyfer arweinydd nesaf Llafur Cymru bellach wedi dod i ben.

Mae tri ymgeisydd - Eluned Morgan, Vaughan Gething a Mark Drakeford - yn y ras i olynu Carwyn Jones, fydd yn camu o'r neilltu yr wythnos nesaf.

Roedd gan oddeutu 175,000 o bobl yr hawl i fwrw'u pleidlais yn yr etholiad fel aelodau o'r blaid Lafur neu o undebau llafur cysylltiedig.

Mae disgwyl i enillydd yr ornest, fydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghaerdydd ddydd Iau, hefyd ddod yn brif weinidog nesaf Cymru.

Cyhoeddodd Carwyn Jones ei fwriad i adael y swydd yng nghynhadledd Llafur Cymru ym mis Ebrill.

Bu'n arweinydd y blaid ac yn Brif Weinidog ers naw mlynedd.

Bydd yn ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd am y tro olaf ddydd Mawrth, 11 Rhagfyr, ac mae disgwyl iddo gyflwyno'i ymddiswyddiad i'r Frenhines yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw.

Daw'r ymddiswyddiad i rym pan fydd y palas yn ateb, a'r tebygrwydd yw y bydd hynny yn hwyrach nos Fawrth.

Bydd ei olynydd fel arweinydd Llafur Cymru yn cael ei enwebu, ac yn debygol o gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog, gan y Senedd ddydd Mercher, 12 Rhagfyr.

Y disgwyl yw y bydd o leiaf un o'r gwrthbleidiau yn enwebu eu harweinydd nhw i'r swydd - mae Plaid Cymru eisoes wedi dweud y byddan nhw'n enwebu Adam Price.

Er hynny mae'n debyg mai'r arweinydd Llafur fydd yn cael y swydd gan fod gan y blaid fwyafrif yn y Cynulliad gyda chefnogaeth y Democrat Rhyddfrydol, Kirsty Williams a'r AC annibynnol Arglwydd Elis-Thomas.