Diwedd cytundeb cyngor ar bentref llesiant Llanelli

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i'r cynllun greu hyd at 2,000 o swyddi a dod 芒 拢467m i'r economi leol

Mae Cyngor Sir G芒r wedi dweud ei fod yn ymbellhau oddi wrth gwmni gafodd ei ddewis i ddatblygu un o'r cynlluniau adfywio mwyaf yn ne orllewin Cymru.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar Bentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant gwerth 拢200m yn Llanelli.

Dywedodd swyddogion y byddai'n creu hyd at 2,000 o swyddi ac yn rhoi hwb o 拢467m i'r economi dros 15 mlynedd.

Ond dywedodd y cyngor ei fod yn dirwyn cytundeb cydweithio i ben gyda Sterling Health Security Holdings.

Mewn cyfarfod cyngor fis diwethaf galwodd arweinydd y gr诺p Llafur, Rob James, am fwy o fanylion am pam y cafodd y cwmni ei ddewis fel partner i'r cynllun.

Mae'r prosiect yn rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe - a bydd yn cael 拢40m o'r cytundeb hwnnw.

Fe wnaeth llywodraethau Cymru a'r DU gyhoeddi "adolygiad annibynnol cyflym" i'r fargen ddinesig ddydd Iau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir G芒r, Emlyn Dole, y byddai'r cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid fel Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe, i ddatblygu'r pentref.

Mae Sterling Health wedi cael cais am sylw gan 麻豆官网首页入口 Cymru.