麻豆官网首页入口

Carwyn Jones wedi ystyried ymddiswyddo yn sgil Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones wedi datgelu ei fod wedi ystyried ymddiswyddo ychydig ddyddiau wedi marwolaeth Carl Sargeant.

Fe gafodd Mr Sargeant ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Nhachwedd 2017, ddyddiau'n unig ar 么l cael ei ddiswyddo o gabinet Mr Jones yn dilyn cyhuddiadau iddo ymddwyn yn amhriodol tuag at ferched.

Cafodd y cwest i'w farwolaeth, lle bu Mr Jones yn rhoi tystiolaeth, ei ohirio fis diwethaf.

Bydd ymchwiliad gan fargyfreithiwr i'r modd y cafodd yr achos ei drin yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Er gwaethaf cwestiynu dwys am y ffordd y deliodd 芒'r sefyllfa, mae Mr Jones wastad wedi gwadu ei fod wedi ystyried ymddiswyddo.

'Cyfnod dwys'

Ond mewn dogfen ar 麻豆官网首页入口 1 Cymru, Being First Minister, wrth gyfeirio at y cyfnod ychydig ddyddiau wedi marwolaeth Mr Sargeant dywed Mr Jones: "Roedd hi'n gyfnod mor ddwys, meddyliais - yr unig ffordd y mae hyn yn mynd i stopio yw i fi fynd."

Fe benderfynodd Mr Jones barhau yn ei swydd, ac yn y rhaglen mae'n dweud: "Pe bawn wedi ymddiswyddo ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, mi fyddai'n edrych fel fy mod yn derbyn y bai.

"Ni allwn wneud hynny."

Ym mis Ebrill 2018 fe gyhoeddodd Mr Jones y byddai'n camu lawr, ac fe fydd yn cynnig ei ymddiswyddiad ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i Mark Drakeford ddod yn Brif Weinidog ar 么l ennill y ras i olynu Carwyn Jones yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Yn y rhaglen ddogfen, mae Mr Jones hefyd yn trafod effaith marwolaeth Mr Sargeant arno.

'Erioed wedi'i weld mor isel'

"Does dim un diwrnod wedi mynd heibio ers i Carl farw nad ydw i wedi meddwl amdano. Mae wastad yno.

"Wedyn rydych yn teimlo yn is eich ysbryd. Mae'n anochel.

"Mae'n effeithio'r ffordd rydych yn gweld y byd - fel arall ni fyddwn yn fod dynol."

Ar y rhaglen mae Lisa, gwraig Mr Jones, yn dweud: "Y sialens fwyaf sydd wedi bod iddo yw Carl. Rwyf wedi gweld yr effaith ar Carwyn ac mae'n ofnadwy.

"Mae wedi ei roi mewn lle ofnadwy iawn. Dwi erioed wedi ei weld mor isel."

Being First Minister, 麻豆官网首页入口 One Wales, Nos Lun am 21:00.