Pwyllgor Ardal Ddinesig Bae Abertawe i gynnal ymchwiliad

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i'r cynllun greu hyd at 2,000 o swyddi a dod 芒 拢467m i'r economi leol

Mae Pwyllgor Ardal Ddinesig Bae Abertawe wedi cyhoeddi ymchwiliad mewnol, fydd yn cyd-redeg gydag ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i strwythurau prosiectau Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant gwerth 拢200m yn Llanelli, sy'n rhan o'r cytundeb 拢1.3bn.

Yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor ddydd Gwener, fe ddaeth i'r amlwg fod gwahardd pedwar aelod o staff Prifysgol Abertawe o'u gwaith yn gysylltiedig 芒'r cynllun hwnnw.

Mae arweinydd Cyngor Abertawe, sydd hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor, Rob Stewart wedi dweud yn y cyfarfod yng Nghaerfyrddin fod angen ymchwiliad i dawelu meddyliau partneriaid rhai sefydliadau ac i sicrhau "hyder" fod y prosiectau yn barod.

Dywedodd Mr Steward na fydd unrhyw oedi o ran y prosiectau o ganlyniad i ymchwiliad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac y byddai'r prosiectau'n barod erbyn mis Ionawr.

Gwahardd staff

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio byddai nifer o achosion busnes yn derbyn s锚l bedith erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, fydd yn sicrhau rhyddhau cyllid y cytundeb dinesig.

Daeth cadarnhad gan gofrestrydd Prifysgol Abertawe fod ymchwiliad i bedwar aelod o staff yn y brifysgol sydd wedi'i gwahardd o ganlyniad i faterion sy'n ymwneud am gynigion Delta Lakes.

Mae hynny'n cynnwys deon yr ysgol fusnes, yr Athro Marc Clement, a oedd yn rhan o'r broses o ysgrifennu'r cais am arian y Fargen Ddinesig, sy'n cynnwys y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant.