麻豆官网首页入口

Cyngor Sir G芒r yn pleidleisio o blaid pentref llesiant

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llesiant LlanelliFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i'r cynllun greu hyd at 2,000 o swyddi a dod 芒 拢467m i'r economi leol

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir G芒r wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid cymeradwyo cynlluniau ar gyfer pentref llesiant gwerth 拢200m yn Llanelli.

Er gwaetha'r bleidlais, ni allai'r cyngor roi s锚l bendith i'r cynlluniau gan ei fod yn bosib mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar dyfodol y cais.

Bydd y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant, sy'n derbyn 拢40m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys adnoddau hamdden, addysg ac iechyd.

Mae'r cynllun - sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe - hefyd yn wynebu ymchwiliadau ac adolygiadau gan nifer o asiantaethau gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r DU.

Mynegodd rhai eu pryderon am ddyfodol y cynllun wedi i ddau academydd o Brifysgol Abertawe gael eu gwahardd yn ogystal 芒 dau aelod arall o staff.

Fe ddaeth y cyngor a'u cytundeb gyda Sterling Health Security Holdings i ben ym mis Rhagfyr - y cwmni preifat oedd yn cydweithio ar y pentref llesiant.

Dywedodd y pwyllgor cynllunio eu bod yn "dymuno gweld y cais yn cael ei gymeradwyo", gan ei ddisgrifio fel un o'r datblygiadau mwyaf yn Sir G芒r ers rhai blynyddoedd.

Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yngl欧n 芒 phryderon am lifogydd posib ar y safle.

'Cam mawr ymlaen'

Yn 么l Arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, mae hyn yn "gam mawr ymlaen ar gyfer y prosiect trawsnewidiol yma, fydd o fudd i bobl Llanelli, Sir G芒r a de Cymru yn gyffredinol".

"Bydd y cynllun yn cynnig nifer o swyddi a chyfleodd i'r ardal yn ogystal 芒 chyfleusterau iechyd a hamdden o'r safon uchaf," meddai.

"Mae pobl Llanelli yn haeddu gweld y datblygiad yma yn digwydd, a nawr yw'r amser i'w gefnogi a throi'r weledigaeth yma yn wirionedd."