Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid pentref llesiant

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i'r cynllun greu hyd at 2,000 o swyddi a dod â £467m i'r economi leol

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid cymeradwyo cynlluniau ar gyfer pentref llesiant gwerth £200m yn Llanelli.

Er gwaetha'r bleidlais, ni allai'r cyngor roi sêl bendith i'r cynlluniau gan ei fod yn bosib mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar dyfodol y cais.

Bydd y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant, sy'n derbyn £40m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys adnoddau hamdden, addysg ac iechyd.

Mae'r cynllun - sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe - hefyd yn wynebu ymchwiliadau ac adolygiadau gan nifer o asiantaethau gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r DU.

Mynegodd rhai eu pryderon am ddyfodol y cynllun wedi i ddau academydd o Brifysgol Abertawe gael eu gwahardd yn ogystal â dau aelod arall o staff.

Fe ddaeth y cyngor a'u cytundeb gyda Sterling Health Security Holdings i ben ym mis Rhagfyr - y cwmni preifat oedd yn cydweithio ar y pentref llesiant.

Dywedodd y pwyllgor cynllunio eu bod yn "dymuno gweld y cais yn cael ei gymeradwyo", gan ei ddisgrifio fel un o'r datblygiadau mwyaf yn Sir Gâr ers rhai blynyddoedd.

Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â phryderon am lifogydd posib ar y safle.

'Cam mawr ymlaen'

Yn ôl Arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, mae hyn yn "gam mawr ymlaen ar gyfer y prosiect trawsnewidiol yma, fydd o fudd i bobl Llanelli, Sir Gâr a de Cymru yn gyffredinol".

"Bydd y cynllun yn cynnig nifer o swyddi a chyfleodd i'r ardal yn ogystal â chyfleusterau iechyd a hamdden o'r safon uchaf," meddai.

"Mae pobl Llanelli yn haeddu gweld y datblygiad yma yn digwydd, a nawr yw'r amser i'w gefnogi a throi'r weledigaeth yma yn wirionedd."