麻豆官网首页入口

Beth nesaf i Wylfa Newydd?

  • Cyhoeddwyd
WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhoddodd atomfa Wylfa y gorau i gynhyrchu ynni yn Rhagfyr 2015

Gohebydd Amgylchedd 麻豆官网首页入口 Cymru, Steffan Messenger, sy'n bwrw golwg ar ddyfodol atomfa Wylfa Newydd, yn dilyn cyhoeddiad y bydd y gwaith ar y cynllun yn cael ei atal.

"Byddai modd dadlau mai dyma yw'r lleoliad gorau yn Ewrop ar gyfer adeiladu atomfa niwclear newydd."

Dyna sut y disgrifiodd cwmni Horizon eu safle ar Ynys M么n mewn cyfweliad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru 'n么l yn 2016.

Roedd y ddaearyddiaeth yn gweddu, a chan y gymuned leol brofiad a sgiliau angenrheidiol.

Fel mae'r enw'n ei awgrymu roedd Wylfa Newydd i fod i droi tudalen lan ar y gwaith o gynhyrchu ynni niwclear ar yr ynys, ar 么l i'r hen Wylfa gau yn 2015.

Roedd yn gam pwysig hefyd tuag at wireddu uchelgais Llywodraeth y DU ar gyfer cyfres o adweithyddion modern ar draws y wlad i ddarparu trydan i'n cartrefi am ddegawdau i ddod.

'Hyderus'

Mae Horizon wastad wedi ymddangos yn hyderus, ac wedi dathlu sawl "carreg filltir" ers dechrau ar y cynllun yn 2009 - trwyddedau i ddefnyddio'r adweithyddion wedi'u caniat谩u, y cais cynllunio mawr wedi'i gyflwyno.

Ond yn y diwydiant ynni, roedd s茂on wedi bod yn lledu yngl欧n ag ymrwymiad y cwmni sy'n berchen ar Horizon, sef Hitachi.

Roedd dod o hyd i fuddsoddwyr i dalu am y gost o adeiladu'r atomfa - oedd yn 2018 wedi dyblu yn 么l rhai adroddiadau i 拢20bn - yn ymddangos fel petai'n gam yn rhy bell.

Ac roedd trafodaethau 芒 Llywodraeth y DU yngl欧n 芒'r pris fyddai'n rhaid ei dalu am drydan o'r safle yn dal i fethu a sicrhau unrhyw ymrwymiadau clir.

Roedd gweinidogion am i'r cymhorthdal fod yn llai na'r hyn a gytunwyd ar gyfer Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf - del a brofodd yn ddadleuol iawn am fod yn rhy ddrud.

Mae adroddiadau hefyd bod ansicrwydd yn sgil Brexit, a phryderon cynyddol yngl欧n ag ynni niwclear yn Japan yn dilyn trychineb Fukushima yn 2011 wedi chwarae'u rhan.

Ac yn y cyfamser, mae cost technolegau ynni adnewyddadwy wedi parhau i syrthio, gan wneud i ynni niwclear ymddangos yn llai a llai dymunol.

Mae trafferthion y prosiect wedi arwain at alwadau am adolygiad o bolisi ynni'r Deyrnas Unedig gan wrthbleidiau ac arweinwyr y diwydiant.

Yng Nghymru - mae rheolaeth dros brosiectau ynni wedi'u rhannu rhwng llywodraethau Bae Caerdydd a San Steffan.

'Ffordd newydd o ariannu?'

Ond pan ddaw hi at gynllun mor fawr 芒 hyn - gyda'r gallu i gynhyrchu 2900 MW o ynni, digon i gyflenwi 5 miliwn o dai - gweinidogion yn Llundain sy'n arwain.

Fe allen nhw benderfynu cynnig ffordd newydd o ariannu'r datblygiad, neu fuddsoddi ynddo eu hunain er mwyn dwyn persw芒d ar Hitachi i barhau.

Eu blaenoriaeth yw sicrhau cyflenwadau fforddiadwy o ynni ymhen blynyddoedd i ddod, tra'n cael gwared ar allyriadau carbon sy'n gyfrifol am gynhesu byd eang.

Felly mae pwerdai glo - fel Aberddawan ym Mro Morgannwg - i fod i gau erbyn 2025. Byddai ymestyn y dyddiad hwnnw neu ddibynnu ar fwy o gynhyrchu ynni drwy losgi nwy yn hynod ddadleuol.

Mae niwclear wedi ei weld fel opsiwn pwysig am ei fod yn cynnig ynni carbon isel sy'n ddibynadwy - er mwyn cyflenwi'r grid cenedlaethol yn gyson, yn wahanol i ynni gwynt a solar sy'n fwy achlysurol.

Ond os yw atomfeydd mawr, traddodiadol bellach yn rhy ddrud, fe allai cefnogwyr adweithyddion bychain - fel yr un sydd wedi'i gynnig ar gyfer Trawsfynydd yng Ngwynedd - weld hyn fel cyfle.

Bydd eraill yn galw am fuddsoddiad sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, yn ogystal 芒 thechnolegau batri er mwyn storio'r trydan yn fwy effeithiol.

Ynni adnewyddadwy

Llynedd, cafodd batri 22 MW ei osod ar safle'r fferm wynt fwyaf ar y tir yn Lloegr a Chymru ym Mhen y Cymoedd ger Castell Nedd.

Mae Llywodraeth Cymru - sydd 芒 chyfrifoldeb dros gynlluniau ynni hyd at 350 MW - wedi dweud eu bod nhw am weld 70% o anghenion trydan Cymru yn cael eu diwallu gan gynlluniau adnewyddadwy erbyn 2030.

Ond yn y pendraw, polis茂au fydd wedi'u pennu yn San Steffan fydd yn cael y dylanwad mwyaf ar brosiectau mawr sy'n gallu darparu cyfran sylweddol o anghenion ynni'r Deyrnas Unedig.

Falle bod Brexit yn bwrw cysgod dros bopeth ar hyn o bryd, ond mae dyfodol ein cyflenwadau trydan yn bwnc y bydd yn rhaid i weinidogion ddod o hyd i amser - ac ynni - i'w ystyried cyn hir.