麻豆官网首页入口

'Disgyblion heb gredyd ar eu cyfrif yn mynd heb fwyd'

  • Cyhoeddwyd
Pryd ysgolFfynhonnell y llun, Reuters

Mae disgyblion yng Nghymru yn colli allan ar bryd cynnes yn yr ysgol os nad oes ganddyn nhw gredyd ar eu cyfrif fel rhan o'r system ddi-arian, yn 么l cynghorwyr.

Hefyd mewn rhai siroedd, mae'n cael ei honni bod bwyd yn cael ei daflu pan na fydd gan ddisgybl gredyd i dalu amdano.

Mae'r honiadau yn cael eu gwneud gan gymdeithas sy'n cynrychioli cynghorwyr tref yn y canolbarth a'r gogledd.

Mewn cyfarfod ddydd Gwener dywedodd cynghorwyr o siroedd ar draws y gogledd a'r canolbarth eu bod yn gwybod am ddisgyblion nad oedd wedi medru cael pryd ysgol oherwydd diffyg credyd.

'Fel yr oesoedd tywyll'

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Cynghorau Lleol y Gogledd a'r Canolbarth, y Cynghorydd Brian Roberts o Gyngor Tref Abergele: "Mae'n amlwg bod y sefyllfa yma yn bodoli ar draws Cymru ac mae'n warthus yn 2019.

"Mae hi fel ein bod yn yr oesoedd tywyll. Ni ddylai'r un person ifanc fynd heb fwyd.

"Sut maen nhw i fod i ddysgu os ydyn nhw eisiau bwyd?"

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae gwahanol systemau di-arian wedi cael eu cyflwyno i ysgolion ar draws Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae modd talu trwy ddefnyddio cerdyn arbennig, teclyn arall neu hyd yn oed trwy gyfrwng sganiwr sy'n adnabod olion bysedd.

Mewn sefyllfaoedd lle nad oes gan ddisgybl yr hawl i ginio ysgol am ddim mae'n gyfrifoldeb ar y rhiant neu'r gwarcheidwad i sicrhau bod credyd ar y cyfrif er mwyn talu am bryd.

'Cymryd y bwyd oddi arno'

Heather Chave o'r Trallwng yw gwarcheidwad ei h诺yr Jerome. Dywedodd bod Jerome wedi methu cael pryd yn yr ysgol ar sawl achlysur oherwydd diffyg credyd.

"Roedd ganddo ei fwyd ar yr hambwrdd ac fe aeth i dalu amdano ond cafodd ei wrthod," meddai.

"Dywedodd wrtha i fod 'na ddim credyd ar ei gerdyn felly fe wnaethon nhw gymryd y bwyd oddi arno.

"Roeddwn i'n eithaf upset ond fe wnaethon ni drafod y peth ac wedyn fe ddes i ddeall bod hyn wedi digwydd iddo o'r blaen.

"Ar un achlysur fe wnes i anghofio rhoi arian ar ei gerdyn ond y troeon eraill roeddwn i wedi rhoi credyd iddo gyda'r hwyr ond doedd y credyd ddim wedi cyrraedd ei gerdyn erbyn y diwrnod nesaf.

"Felly does dim bai arna i nac arno fe chwaith, ond fe aeth e heb ginio er hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Heather Chave bod ei h诺yr Jerome wedi mynd heb bryd yn yr ysgol ar sawl achlysur

Dywedodd Robert Robinson, ysgrifennydd Cymdeithas Cynghorau Lleol y Gogledd a'r Canolbarth, mewn cyfarfod ddydd Gwener fod cynghorwyr o sawl sir wedi gweld achosion tebyg yn eu hardaloedd nhw.

"Mae hyn wedi cael ei godi ar draws y canolbarth a'r gogledd gan gynnwys yng Ngwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Phowys," meddai.

"Mae aelodau'r gymdeithas yn bryderus iawn, ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd deall.

"Ein bwriad yw cwrdd gyda Llywodraeth Cymru i weld beth y gellir ei wneud er mwyn lleddfu'r broblem."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Robert Robinson fod cynghorwyr o sawl sir wedi gweld achosion tebyg

Yn 么l y Cynghorydd Joan Butterfield o'r Rhyl, Sir Ddinbych, os nad oes gan ddisgybl gredyd, dydyn nhw ddim yn gallu cael pryd twym, ond maen nhw'n cael brechdan gaws a diod o dd诺r yn ei le.

Dywedodd y Cynghorydd Butterfield: "Mae pob ysgol yn paratoi nifer penodol o brydau ac mae'n ymddangos os nad oes gan blentyn gredyd mae pryd yn cael ei daflu.

"Pam ddim rhoi'r bwyd i'r plentyn a dweud wrth eu rhieni eu bod nhw mewn dyled?

"Mae'n rhaid i ni drwsio'r broblem yma a sicrhau nad yw'r plant yn dioddef oherwydd diffyg credyd."

'Cyfrifoldeb rhieni'

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys: "Cyfrifoldeb rhieni neu warcheidwaid yw sicrhau bod digon o gredyd ar y cyfrif (ParentPay) i brynu pryd ysgol ac maen nhw'n derbyn diweddariadau wythnosol ar eu balans os ydyn nhw'n mynd i ddyled.

"Os yw prynu bwyd yn mynd 芒'r cyfrif i ddyled fe fydd y pryniant yn cael ei ganiat谩u, a'r bwyd yn cael ei roi, ond bydd staff yn dweud wrth y disgybl bod y cyfrif mewn dyled a bydd cais i dalu mewn iddo."

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi cysylltu 芒 Chyngor Sir Ddinbych i holi am sylw.