Drakeford yn galw am ddiogelu arian cymorth i Gymru

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'n rhaid i'r un lefel o arian sy'n dod i rannau tlotaf Cymru o'r Undeb Ewropeaidd barhau i ddod yma ar 么l Brexit yn 么l prif weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Daeth sylwadau Mr Drakeford ar 么l adroddiadau fod rhai Aelodau Seneddol Llafur o ogledd Lloegr wrthi yn ceisio negydu pecynnau ariannol ar gyfer eu hetholaethau mewn cyfnewid am eu cefnogaeth i gynlluniau Brexit Theresa May.

Dywed Mr Drakeford fod yn rhaid sicrhau fod y gyfundrefn o roi arian cymorth i ardaloedd tlotaf Cymru yn cael ei seilio ar "set o reolau" pendant.

Yn 么l llywodraeth Cymru mae'n rhaid i Gymru barhau i dderbyn yr un lefel o gymhorthdal ag oedd yn dod o'r EU.

"Dyna gafodd ei addo yn ystod y refferendwm a dyna beth mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ei wireddu," meddai Mr Drakeford.

Disgrifiad o'r llun, Drakeford: 'Angen set o reolau pendant

Ers 2000 mae rhannau tlotaf Cymru wedi derbyn biliynau o bunnoedd oddi wrth yr UE.

Mae'r UE yn rhoi'r lefel uchaf o gymhorthdal i unrhyw wlad sy'n cynhyrchu llai na 75% o gyfartaledd Cynnyrch Domestig Gros - GDP - gwledydd yr UE.

Mae Cymru wedi derbyn mwy na 拢5 biliwn ers y flwyddyn 2000.

Cernyw yw'r unig ran arall o'r DU sydd wedi bod yn gymwys i dderbyn y cymhorthdal.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo y byddai system gymhorthdal yn parhau i fodoli yn dilyn Brexit, ond hyd yma nid yw Llywodraeth y DU wedi dweud sut y bydd unrhyw gynllun newydd yn gweithio.

Roeddent wedi addo rhoi manylion erbyn diwedd 2018, ond dyw hynny heb ddigwydd.

'Cwbl annerbyniol'

Yr wythnos ddiwethaf roedd adroddiadau fod rhai ASau Llafur o Loegr wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth y DU yngl欧n 芒 derbyn cymorthdaliadau mewn cyfnewid am gefnogaeth i bolisi Brexit Mrs May.

Dyw hynny heb gael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU.

Nawr Mae Mr Drakeford yn dweud ei fod am wybod sut y bydd unrhyw gynlluniau i ariannu rhannau tlotaf y DU yn cael ei weithredu.

"Ni allwn gael sefyllfa o ran cynllun rhannu cyfoeth lle taw Llywodraeth y DU yw'r barnwr, y rheithgor a'r Llys Ap锚l," meddai.

Dywedodd y byddai system o'r fath yn gwbl annerbyniol.

Mae'n rhaid bod cynllun newydd yn sicrhau fod yr arian sydd yn dod nawr yn parhau i ddod i Gymru," ychwanegodd.

Dywedodd y dylai "penderfyniad am ei wario gael ei wneud yng Nghymru" a bod unrhyw anghydweld yn cael ei ddatrys gan reolau pendant, a bod yna gorff annibynnol yn dehongli'r rheolau.