麻豆官网首页入口

Beirniadu proses taliadau lwfans anabl

  • Cyhoeddwyd
Denise Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Denise Edwards ei bod wedi bod ar ei cholled o 拢480 y mis

Mae dynes sydd yn rhannol ddall yn dweud ei bod wedi gorfod gwerthu ei heiddo er mwyn ymdopi gan iddi orfod aros 17 mis i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod ei lwfans anabl.

Mae Denise Edwards, 53 oed o Wrecsam, yn dweud ei bod ar ei cholled o 拢480 y mis ar 么l i gynllun Taliadau Annibyniaeth Personol gael ei wrthod iddi.

Ar gyfartaledd, mae'r oedi rhwng dechrau a chaniat谩u ap锚l lwyddiannus wedi mwy na dyblu ers 2014/15.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn parhau yn gyson i wella'r broses.

Fe wnaeth ymchwil gan 麻豆官网首页入口 Cymru ddarganfod bod un yn bob 10 person anabl wnaeth herio penderfyniad ar lwfansau orfod aros mwy na 10 mis am arian.

Dywed ymgyrchwyr fod y broses yn ddiffygiol gyda thua 72% o achosion yn cael eu gwyrdroi ar ap锚l.

Beth yw Taliadau Annibyniaeth Personol? (TAP)

Mae TAP wedi bod yn raddol disodli'r Lwfans Talaidau Byw Pobl Anabl ers 2013. Mae'n werth hyd at 拢145.35 yr wythnos.

Y nod yw helpu tuag ag y gost ychwanegol o anabledd neu salwch hir dymor er mwyn cynorthwyo gyda phethau fel gwisgo, coginio prydau a gallu rhywun i symud o le i le.

Dywed rhai pobl sy'n hawlio'r taliad fod asesiadau yn aml yn rhai dadleuol, a'u bod yn cael eu cynnal gan gwmn茂au preifat ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y lwfans newydd ddod i fodolaethyn 2013

Mae Ms Edwards yn rhannol ddall a tan yn ddiweddar yn defnyddio ci tywys.

Dywedodd iddi golli tua 拢480 y mis ar 么l penderfyniad i beidio rhoi taliad TAP iddi ym mis Chwefror.

Dywedodd iddi orfod mynd 17 mis cyn iddi ennill ei hap锚l.

"Roedd yn rhaid i mi werthu stwff er mwyn byw, pethau fel gemwaith... yn ffodus mi roedd gennyf stwff i werthu.

"Rwy'n hynod o flin oherwydd mae pobl ag anableddau yn cael hi'n ddigon anodd beth bynnag," meddai.

'Sefyllfa warthus'

Dywedodd Miranda Evans, o elusen Anabledd Cymru mae'r sefyllfa a'r oedi yn warthus.

"Mae'n annerbyniol fod pobl yn gorfod aros dros 12 mis i apelio, a hynny'n llwyddiannus," meddai.

"Mae'r rhaid iddo ddigwydd yn gynt yn hytrach na rhoi pobl trwy amser trawmatig pan nad oedd ganddynt y modd o gynnal bywyd annibynnol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed yr Adran Gwaith a Phensiynau fod 40% o bobl sy'n hawlio yn cael mwy o dan y drefn newydd

Ond dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod nhw wedi ymroi yn llwyr i sicrhau fod pobl anabl yn cael y cymorth sydd ei angen.

"Mae asesiadau yn gweithio'n dda i'r mwyafrif o bobl, ond mae profiad gwael un person yn un yn ormod, ac rydym wedi ymroi i wella'r broses fel bod pawb yn cael y cymorth maen nhw ei angen.

"O dan taliadau TAP yng Nghymru mae 40% o bobl yn cael mwy o gefnogaeth nag o dan yr hen drefn," meddai'r llefarydd.

"Mae 3.7m o benderfyniadau TAP wedi eu gwneud, o'r rhain mae 10% wedi arwain at ap锚l, ac mae 5% wedi cael eu gwyrdroi.

"Mae penderfyniadau yn cael eu newid wrth i bobl gynnig mwy o dystiolaeth, ysgrifenedig neu eiriol."