Ymchwilio i orchymyn gwahardd y Gymraeg gyda chleifion

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio ar 么l i gartref gofal yn Ystradgynlais ddweud wrth eu staff i beidio 芒 siarad Cymraeg o flaen y cleifion.

Mae rheolwyr cartref Isfryn yn dweud y gwnaethon nhw hynny er mwyn osgoi drysu cleifion wrth iddyn nhw wella, ond mi fyddan nhw'n ailedrych ar y penderfyniad.

Y darparwyr iechyd Accomplish sy'n gyfrifol am y cartref, sy'n cynnig gofal i bobl sydd wedi dioddef o anafiadau i'r ymennydd.

Mewn datganiad maen nhw'n dweud y cawson nhw eu sefydlu yng Nghymru dros 30 mlynedd yn 么l, a bod ganddyn nhw barch mawr at y Gymraeg a diwylliant Cymru.

'Anawsterau cyfathrebu'

Mae'r cwmni'n darparu hyfforddiant yn Gymraeg ac yn cynnig cwrs i gyflwyno'r iaith i'w staff.

Mae'r datganiad yn ychwanegu bod "gan bobl yn Isfryn anawsterau cyfathrebu ac ar hyn o bryd ond yn deall Saesneg".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Meri Huws y gallai gorchmynion honedig o'r fath "amharu ar ryddid" pobl i ddefnyddio'r Gymraeg

"Gan mai Isfryn ydy eu cartref, roedd 'na bryder na fydd y bobl sy'n cael cefnogaeth yn deall pam bod staff yn siarad iaith ar wah芒n i'r Saesneg, ac y gall gwneud hynny achosi dryswch neu boendod all, o bosib, amharu ar eu gwellhad."

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi cyfeirio at Fesur y Gymraeg - a ddaeth i rym wyth mlynedd yn 么l - sy'n dweud bod rhyddid gan ddau neu fwy o bobl i siarad Cymraeg 芒'i gilydd yng Nghymru.

Yn ei datganiad hithau mae'n dweud: "Os yw rhywun, er enghraifft cyflogwr, yn dweud wrthynt na ddylent barhau i ddefnyddio'r Gymraeg, mae'n bosibl eu bod yn amharu ar y rhyddid hwnnw.

"Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi pwerau statudol i mi fel Comisiynydd i ymchwilio i achosion o'r fath.

"O'r dystiolaeth rwyf wedi ei gweld heddiw, mae'n ymddangos efallai bod yna achos o ymyrryd 芒 rhyddid y staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn Isfryn, Accomplish."

Ychwanegodd Ms Huws y byddai'n cysylltu gyda'r cartref i "gasglu mwy o wybodaeth er mwyn deall y sefyllfa yn llawn".

"Hefyd, hoffwn annog unrhyw un sy'n cael ei effeithio i gysylltu 芒'm swyddfa er mwyn inni allu ymchwilio'n llawn i'r mater."

Mae Accomplish Group yn dweud y byddan nhw'n ailedrych ar y penderfyniad a wnaed o ran defnyddio'r Gymraeg ac yn cydweithio 芒 staff a'r awdurdodau perthnasol o ran cael hyd i'r ffordd ymlaen.

Maen nhw hefyd yn dweud na fyddai'r un aelod o'r staff wedi cael ei ddisgyblu am siarad Cymraeg yn y cartref.