麻豆官网首页入口

Cadarnhad fod cwmni adeiladu Dawnus yn nwylo gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
Datblygiad Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth gwaith i ben ar safle Dawnus yn Abertawe ddydd Mercher

Daeth cadarnhad swyddogol fod cwmni adeiladu Dawnus wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Yn 么l datganiad brynhawn Gwener, mae cwmni Grant Thornton UK LLP wedi cael eu penodi'n weinyddwyr dros rannau Prydeinig y cwmni, ond nid y canghennau tramor.

Mae gr诺p Dawnus yn cyflogi tua 700 o bobl dros chwech o swyddfeydd rhanbarthol, ac yn gyfrifol am 44 o safleoedd adeiladu ar hyn o bryd.

Mae'r cwmni wedi mynd i drafferthion oherwydd arafu yn y diwydiant adeiladu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dawnus sy'n gyfrifol am gynllun Pontrhondda yn Llwynypia, sydd heb ei orffen

Dywedodd Alistair Wardell o Grant Thornton: "Mae gr诺p Dawnus wedi wynebu nifer o heriau amrywiol ac er gwaeth ymdrechion sylweddol i adfywio'r busnes, yn anffodus nid yw wedi medru achub y gr诺p.

"O ganlyniad mae llif arian y cwmni wedi golygu nad yw'r busnes mewn safle i barhau i weithredu, gan gynnwys cwblhau prosiectau adeiladu sydd eisoes wedi dechrau.

"Er nad yw trafferthion ariannol y cwmni yn ganlyniad i Brexit, does dim amheuaeth fod ansicrwydd Brexit wedi cael effaith ar yr ymdrechion i achub y busnes.

"Ein blaenoriaeth gyntaf yw gweithio gyda'r rheolwyr i sicrhau fod yr effaith ar gwsmeriaid, gweithwyr a chredydwyr yn cael ei leihau."

'Penderfyniad trist'

Mewn datganiad brynhawn Gwener, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC: "Caiff y penderfyniad trist hwn effaith arwyddocaol hefyd ar fusnesau bach a chanolig yn y gadwyn gyflenwi.

"Mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda bwrdd Dawnus a'r gweinyddwyr i greu cronfa ddata o gredydwyr y busnes i'w dadansoddi i werthuso'r effaith lawn ar y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

"Mae gan y cwmni nifer o gontractau byw 芒'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion, cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a phrosiectau seilwaith ac mae fy swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn adrannau Llywodraeth Cymru i gadw'r effaith mor fach 芒 phosib."