Mesurau i ddiogelu cerddwyr yn 'Steddfod 2020

Disgrifiad o'r llun, Mae safle'r 诺yl i'r gogledd o Dregaron

Fe fydd swyddogion iechyd a diogelwch Ceredigion yn rhoi sylw penodol i ddiogelwch cerddwr yn croesi'r ffordd fawr wrth iddynt ystyried trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2020.

Clywodd cynghorwyr y bydd angen gofal i ddiogelu'r cyhoedd yn wyneb "marwolaeth drasig" ddigwyddodd yn ystod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn 2017.

Fe wnaeth y Sioe Frenhinol gyflwyno trefniadau diogelwch newydd y llynedd yn dilyn marwolaeth James Corfield.

Dywedodd Gareth Rees, prif swyddog trwyddedu Ceredigion, fod ei swyddogion eisoes wedi bod yn trafod trefniadau diogelwch ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae'r achlysur yn un pwysig i'r ardal, yn ddiwylliannol ac yn economaidd," meddai.

"Mae'r gr诺p wedi trafod anghenion trwyddedu ar y safle, materion yn ymwneud a llety, iechyd a diogelwch, rheolaeth traffig, diogelwch t芒n, asesiadau risg, rheolaeth s诺n a darpariaeth cymorth cyntaf a d诺r."

Disgrifiad o'r llun, Tregaron fydd prif dref yr 糯yl yn 2020

Ychwanegodd fod angen ystyriaeth fanwl i ddiogelwch pobl sy'n croesi'r ffordd fawr er mwyn mynd i feysydd parcio a'r maes gwersylla.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Strong wrth aelodau'r Pwyllgor Trwyddedu y dylid ystyried y posibilrwydd o godi pont troed dros dro ger y safle.

Fe fydd aelodau'r gr诺p yn ymweld 芒'r Eisteddodd yn Llanrwst ym mis Awst er mwyn craffu ar y trefniadau yno.

Fe wnaeth y Pwyllgor Trwyddedu hefyd drafod trefniadau ar gyfer g诺yl gerddorol newydd yn y sir.

Cafodd gr诺p cynghori newydd ei sefydlu er mwyn trafod cais i gynnal G诺yl Gwenlli ar safle ger Synod Inn ar benwythnos cyntaf mis Gorffennaf.

Dywed y trefnwyr fod yr 诺yl yn llenwi'r bwlch wrth i 糯yl N么l a Mlaen gymryd seibiant eleni, ac y bydd yn rhoi llwyfan i artistiaid a grwpiau Cymraeg.