麻豆官网首页入口

Chris Davies AS yn cael dirwy am hawlio treuliau ffug

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Chris Davies eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o hawlio treuliau ffug

Mae AS Ceidwadol wedi cael dedfryd o wasanaeth cymunedol a dirwy o 拢1,500 am hawlio treuliau ffug.

Roedd yr aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, Chris Davies, sy'n 51, eisoes wedi pledio'n euog ym mis Mawrth i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

Mae posibilrwydd y gallai nawr wynebu isetholiad pe bai digon o bobl yn ei etholaeth yn arwyddo deiseb yn galw am hynny.

Wedi'r ddedfryd, dywedodd ei fod yn "ymddiheuro yn ddiamod" am yr hyn a wnaeth.

'Sioc'

Ddydd Mawrth, clywodd Llys y Goron Southwark fod y cyhuddiadau yn ymwneud 芒 chostau gafodd eu hawlio wrth iddo fynd ati i agor swyddfa yn ei etholaeth yn dilyn etholiad cyffredinol 2015.

Hwn oedd yr erlyniad cyntaf o'i fath o dan y Ddeddf Safonau Seneddol.

Yn ogystal 芒'r ddirwy, bydd yn rhaid i'r AS dalu costau'r achos, a bydd yn rhaid iddo gwblhau 50 awr o waith cymunedol di-d芒l o fewn 12 mis.

Ffynhonnell y llun, Alfred Collyer/PA Wire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Davies fod yr achos wedi cael effaith gwirioneddol arno ef a'i deulu

Wrth ddedfrydu dywedodd y barnwr, Mr Ustus Edis, fod yr AS wedi torri ymddiriedaeth y cyhoedd a bod hyn wedi ychwanegu at ddifrifoldeb y drosedd.

Dywedodd ei fod yn rhywbeth oedd yn "peri sioc" mai wrth wynebu problem syml gyda chyfrifon mai'r "ateb hawsaf a mwyaf syml oedd i ffugio dogfennau".

Ond ychwanegodd y barnwr fod ganddo "rywfaint o gydymdeimlad" am yr hyn oedd wedi digwydd a bod hwn hefyd "mewn categori wahanol iawn i'r sgandal treuliau ddegawd yn 么l".

Dywedodd Mr Davies mewn datganiad: "Rydw i'n derbyn dyfarniad y llys ac eisiau bachu ar y cyfle hwn i ymddiheuro yn ddiamod.

"Hoffwn ddatgan unwaith eto fy mod i wedi gwneud camgymeriad, ac nad oeddwn wedi ceisio elwa yn ariannol ar unrhyw bwynt.

"Mae hyn wedi cael effaith gwirioneddol ar fy nheulu, fy staff ac arnaf fi... hoffwn symud ymlaen nawr a pharhau i wasanaethu pobl Brycheiniog a Maesyfed fel AS."

'Ymddiheuro yn ddiamod'

Yn yr achos gwreiddiol clywodd ynadon Westminster fod Davies wedi hawlio treuliau ym mis Mawrth 2016 ar gyfer ei swyddfa etholaeth drwy ddefnyddio anfoneb ffug.

Clywodd ynadon ei fod wedi creu dwy anfoneb ffug, un am 拢450 a'r llall am 拢250. Fe wnaeth Davies ad-dalu 拢450, ac ni chafodd yr ail anfoneb am 拢250 ei hanfon.

Roedd o'n honni mai blerwch ofnadwy oedd yn gyfrifol.

Honnodd nad oedd wedi ei ysgogi gan "elw personol" a bod y system hawlio treuliau yn un anodd ei deall.

Wedi'r ddedfryd dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Llefarydd T欧'r Cyffredin y byddai'n "dechrau'r broses o lunio deiseb Galw N么l ac i'r swyddog etholiadol roi'r trefniadau mewn lle ar gyfer y ddeiseb".

"Fe fyddai'r ddeiseb ar gael i'w llofnodi am chwe wythnos. Pe bai 10% neu fwy o'r etholaeth yn arwyddo'r ddeiseb, yna fe fydd yr AS yn colli ei sedd a bydd angen cynnal isetholiad."

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Geidwadol: "Mae Chris Davies wedi cael rhybudd swyddogol gan y prif chwip yn dilyn penderfyniad heddiw.

"Mae wedi ymddiheuro ac mae'n gywir bod pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed nawr yn cael penderfynu os ydyn nhw'n dal i gefnogi Mr Davies."