Deiseb Galw N么l yr AS Ceidwadol Chris Davies yn agor

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Chris Davies wedi "ymddiheuro yn ddiamod" am hawlio treuliau ffug

Bydd deiseb Galw N么l yn agor ddydd Iau i benderfynu a fydd AS Ceidwadol yn cadw ei sedd wedi iddo gyfaddef hawlio treuliau ffug.

Fe wnaeth Chris Davies, 51, bledio'n euog ym mis Mawrth i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

Mae posibilrwydd y gallai nawr wynebu isetholiad pe bai digon o bobl yn ei etholaeth yn arwyddo deiseb yn galw am hynny.

Bydd etholwyr Brycheiniog a Sir Faesyfed yn gallu arwyddo'r ddeiseb o 09:00 fore Iau nes 20 Mehefin, a bydd modd gwneud hynny mewn ar draws yr etholaeth.

Fe fyddai isetholiad yn cael ei gynnal pe bai 10% o'r etholaeth - 5,303 o bleidleiswyr - yn arwyddo'r ddeiseb.

'Ymddiheuro'n ddiamod'

Fis diwethaf cafodd Mr Davies ddedfryd o wasanaeth cymunedol a dirwy o 拢1,500 yn Llys y Goron Southwark.

Dywedodd Mr Davies yn dilyn ei ddedfryd ei fod yn "ymddiheuro yn ddiamod" am yr hyn a wnaeth.

Mae etholwyr yn gallu arwyddo'r ddeiseb yn Aberhonddu, Crughywel, Y Gelli Gandryll, Llanandras, Llandrindod ac Ystradgynlais.

Bydd pobl sydd wedi cofrestru am bleidlais bost yn derbyn dogfen i'w harwyddo os ydyn nhw eisiau eu henwau ar y ddeiseb.

Fe fydd yr enwau'n cael eu cyfrif ar ddiwedd y cyfnod chwe wythnos, cyn i Lefarydd T欧'r Cyffredin gyhoeddi'r canlyniadau.

Ffynhonnell y llun, Yui Mok/PA

Disgrifiad o'r llun, Fiona Onasanya oedd y person cyntaf i golli ei sedd o ganlyniad i ddeiseb Galw N么l

Mr Davies yw'r trydydd AS i wynebu deiseb Galw N么l ers iddo ddod i fodolaeth yn 2016, ond y cyntaf yng Nghymru.

Yn gynharach ym mis Mai, AS Peterborough Fiona Onasanya oedd y cyntaf i golli ei sedd yn y ffordd yma wedi i dros chwarter ei hetholwyr arwyddo deiseb ar 么l iddi gael ei charcharu am ddweud celwydd yngl欧n 芒 throsedd goryrru.