Kinnock: Mynnu refferendwm arall yn pergylu trafodaethau

Mae trafodaethau rhwng Llafur a llywodraeth Geidwadol Theresa May i geisio pasio ei chytundeb Brexit yn Nh欧'r Cyffredin mewn perygl o fethu oherwydd bod Llafur yn mynnu refferendwm arall, yn 么l un AS o Gymru.

Dywedodd Stephen Kinnock, AS Aberafan, fod yr alwad am refferendwm arall yn peryglu chwalu unrhyw obaith o ddatrysiad.

Mae trafodaethau rhwng Llafur a'r llywodraeth yngl欧n 芒 gadael yr UE wedi parhau am fis gydag ychydig iawn o lwyddiant.

Mae hanner y 28 AS Llafur o Gymru wedi galw am bleidlais gyhoeddus arall.

Yn 么l Syr Keir Starmer, llefarydd Llafur ar Brexit, fe fydd hi'n amhosib cael mwyafrif o blaid unrhyw fath o gytundeb Brexit heb fod addewid o refferendwm arall.

Ffynhonnell y llun, EPA

Disgrifiad o'r llun, Yn wreiddiol roedd y DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth

Ond dywedodd Mr Kinnock wrth y 麻豆官网首页入口: "Rwy'n wirioneddol poeni mai'r rheswm pam nad yw'r trafodaethau yn dwyn ffrwyth yw oherwydd bod Llafur yn cyflwyno llinell goch newydd i'w gofynion - sef yr angen am refferendwm i gadarnhau'r penderfyniad.

"Fy safbwynt i yw na fydd y prif weinidog byth yn mynnu bod aelodau Ceidwadol yn cael eu chwipio i bleidleisio dros gytundeb o'r fath, ac felly mae gofyn am hynny gystal 芒 thanio torpedo o ran rhoi unrhyw obaith o lwyddiant i'r trafodaethau."

Yn wreiddiol roedd y DU i fod i adael yr UE ar 29 Mawrth, ond cafodd hynny ei ohirio nes 31 Hydref ar 么l i D欧'r Cyffredin wrthod cytundeb Theresa May dair gwaith.