Llywydd yn gofyn i ACau Brexit Party brofi aelodaeth

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Nigel Farage ymweld ag aelodau'r gr诺p newydd fore Mercher

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru ar ddeall y bydd yn rhaid i'r pedwar Aelod Cynulliad sydd wedi ymuno 芒'r Brexit Party brofi eu haelodaeth cyn cael yr hawl i ffurfio gr诺p swyddogol yn y Senedd.

Bydd y gr诺p newydd yn cael ei harwain gan Mark Reckless os bydd eu cais i ffurfio gr诺p yn cael ei dderbyn gan y Llywydd.

Ond mae Elin Jones wedi gofyn iddynt ddangos tystiolaeth i gefnogi eu bod nhw wedi ymuno 芒 phlaid Nigel Farage, ac wedi gadael unrhyw bleidiau eraill.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru hefyd yn deall bod ACau yn ceisio newid rheolau'r Cynulliad er mwyn rhwystro'r Brexit Party rhag ffurfio gr诺p.

Mewn llythyr sydd wedi dod i law Newyddion 9, mae'r Llywydd yn dweud: "Gan ystyried bod y Brexit Party yn blaid newydd yn y Cynulliad, mi fydda i yn ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol i gadarnhau statws y blaid fel un gofrestredig."

Hefyd mae disgwyl y bydd o leiaf chwech AC o wahanol bleidiau yn gofyn i bwyllgor busnes y Cynulliad newid y rheolau yngl欧n 芒 symud rhwng pleidiau gwahanol.

Byddai'r rheol newydd yn golygu na fyddai AC yn gallu symud i blaid arall sydd heb gynrychiolaeth flaenorol o fewn y Cynulliad.

Pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo gan y pwyllgor yna bydd ACau yn cynnal pleidlais ar y mater.

Byddai angen i ddau draean o'r holl ACau i ochri gyda'r newid er mwyn ei wneud yn swyddogol.

Beth yw gr诺p yn y Cynulliad?

  • Yn gyffredinol mae ACau yn aelodau o gr诺p y blaid y maen nhw yn ei chynrychioli;
  • Mae cael gr诺p yn golygu bod hawl i siarad am gyfnodau hirach yn y siambr yn ogystal 芒 derbyn mwy o gyllideb i gyflogi staff;
  • Mae'n rhaid cael o leiaf tri AC er mwyn ffurfio gr诺p yn y Cynulliad;
  • Pedwar gr诺p sydd yn y Cynulliad ar hyn o bryd - Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP.

Yn 么l un ffynhonnell, mae'r aelodau sydd yn gobeithio ffurfio gr诺p newydd wedi "gyrru ceffyl a chart drwy'r system etholiadol".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit, Jeremy Miles wrth raglen y Post Cyntaf bod trafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn gweld os oes digon o gefnogaeth i newid trefn rheolau sefydlog y Cynulliad.

"Dydw i ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu cefnogi fel gr诺p yn y Senedd, ac rydyn ni angen trafodaethau trawsbleidiol i sicrhau bod yno gonsensws ar y mater," meddai.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Llywydd i "wneud y peth iawn", tra bod llefarydd ar ran y blaid Lafur yn dweud nad oes gan y gr诺p newydd "unrhyw fandad democrataidd yng Nghymru".