麻豆官网首页入口

Pryder am ddiffyg cynnydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pwyllgor yn dweud y gallai mesurau arbennig ddod yn sefyllfa "normal"

Nid yw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dangos digon o gynnydd ers cael ei roi dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, yn 么l pwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad.

Daeth ymchwiliad y pwyllgor i'r casgliad mai dim ond "ychydig o effaith" ymarferol gafwyd yn sgil ymyrraeth gan y llywodraeth.

Mae'r bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu cleifion yng ngogledd Cymru wedi bod dan fesurau arbennig ers Mehefin 2015.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "cynnydd wedi ei wneud mewn sawl maes".

Mae'r pwyllgor yn amlinellu pryderon am amseroedd aros i gleifion a rheolaeth ariannol y bwrdd, gan ddweud bod y bwrdd wedi gorwario 拢41m.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi "pryderon difrifol am berfformiad ariannol y bwrdd iechyd, methiant i gwrdd 芒 thargedau amseroedd aros cleifion, ac am y diffyg cynnydd o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynnydd yn "annerbyniol o araf", yn 么l cadeirydd y pwyllgor Nick Ramsay

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, yr AC Ceidwadol Nick Ramsay, bod y gwaith o fynd i'r afael a phroblemau yn "annerbyniol o araf".

"Mae angen trawsnewid gwasanaethau ar draws gogledd Cymru ar frys, er mwyn darparu gwasanaethau sy'n gynaliadwy yn ariannol ac sy'n darparu gwell gofal i gleifion," meddai.

"Er bod llawer o newidiadau wedi bod, a chynlluniau pellach ar y gweill, mae'r sefyllfa yn parhau'n destun pryder mawr i ni.

"Mae perygl difrifol y gall mesurau arbennig gael ei dderbyn fel sefyllfa gwbl normal.

"Mae'n ymddangos bod y diffyg ariannol yn gwaethygu, nid yw'n ymddangos bod amseroedd aros yn gwella ac yn dilyn methiannau hanesyddol a diffygion ar hyn o bryd ym maes gofal iechyd meddwl, rydym yn pryderu nad yw'r bwrdd yn gweithredu'n ddigon cyflym i wella gwasanaethau."

'Adeiladu ar ein cynnydd'

Dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Mark Polin, a'r prif weithredwr, Gary Doherty, eu bod yn "parhau i gadw ffocws ar ddarparu'r newid sydd angen i ddarparu gwasanaethau modern a chynaliadwy i bobl gogledd Cymru".

"Rydym yn benderfynol o adeiladu ar ein cynnydd hyd yma wrth i ni weithio gydag ein staff a'n partneriaid i weithredu'r newid sydd angen," medden nhw mewn datganiad.

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dan y trefniadau mesurau arbennig rydyn ni wedi rhoi cefnogaeth a chyngor i'r bwrdd yn ogystal 芒 dros 拢80m o gyllid ychwanegol.

"Mae cynnydd wedi ei wneud mewn sawl maes - mae gwasanaethau mamolaeth a gwasanaeth allan o oriau sydd wedi gadael mesurau arbennig.

"Ond rydym yn cydnabod hefyd bod angen cynnydd a gweithredu pellach."