Yr Urdd i ddanfon prentis i glwb Cymraeg yn Sydney

Ffynhonnell y llun, WILLIAM WEST

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n anfon prentis chwaraeon ac aelod o staff i weithio yn Ysgol Haf Gymraeg, Sydney.

Y bwriad yw gyrru unigolyn allan fis Ionawr 2020 ac yn flynyddol wedi hynny.

Cafodd Ysgol Haf Sydney, sy'n cael ei threfnu gan y Gr诺p Chwarae Cymraeg yno, ei sefydlu eleni.

Dywedodd Kat Colling o Cymru a'r Byd - cyd-noddwyr yr ymweliad gyda'r gr诺p chwarae - bydd y cynllun yn galluogi pobl i gynnal "eu gwreiddiau a'u hiaith Gymraeg".

Yn 么l cyfrifiad 2016, mae 1,689 o bobl yn siarad Cymraeg yn Awstralia, sy'n gynnydd o 16% ers 2011.

Mae'r Ysgol Haf yn ymateb i'r cynnydd, gyda'r nod o helpu teuluoedd sydd eisiau magu eu plant yn Gymraeg a rhoi cyfle iddynt ddysgu mwy am eu treftadaeth a'r iaith.

Yn 么l yr Urdd, bydd yr ymweliadau, sydd yn bythefnos o hyd, yn rhoi cyfle i blant yn Sydney i ddefnyddio eu Cymraeg mewn awyrgylch fywiog.

'Gwahaniaeth mawr'

Dywedodd Gwenfair Griffith, mam i ddau blentyn yn y Gr诺p Chwarae, bod hyn yn "golygu llawer iawn i deuluoedd sy'n ymdrechu'n galed i drosglwyddo'r Gymraeg i'w plant ym mhen draw'r byd".

"Mae cael adnoddau Cymraeg mor bell o Gymru yn gallu bod yn anodd iawn, er gymaint mae technoleg fodern yn helpu.

"Rwy'n hollol siwr y bydd y bartneriaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr," meddai.

Esboniodd Kat Colling o Cymru a'r Byd eu bod yn edrych "ymlaen at adeiladu partneriaeth gyda'r Urdd ymhellach".

"Rydym yn falch iawn o fod yn ffurfio cysylltiadau gyda'r Urdd ac i fod mewn sefyllfa i gefnogi'r iaith Gymraeg ac ieuenctid y disapora Cymreig; dau achos sy'n agos at galon ein sefydliad."