麻豆官网首页入口

Beirniadu asesiadau budd-dal i bobl sy'n colli eu golwg

  • Cyhoeddwyd
OptegyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cyngor Cymru i'r Deillion o'r farn mai meddygon neu optegwyr yn unig ddylai gynnal yr asesiadau

Mae pobl sy'n cael trafferth gweld yn colli allan ar fudd-daliadau oherwydd y ffordd mae eu golwg yn cael ei brofi, yn 么l elusennau.

Dywedodd Cyngor Cymru i'r Deillion (CCD) bod aseswyr yn defnyddio offer arbenigol yn anghywir, sy'n arwain at "ganlyniadau anghywir".

Yn 么l Capita, sy'n asesu pobl yng Nghymru ar gyfer budd-dal Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), mae ei aseswyr wedi'u "hyfforddi'n llawn".

Dywedodd Llywodraeth y DU bod asesiadau'n cynnwys prawf golwg dim ond ble fo hynny'n "addas a pherthnasol".

'Derbyn llai'

Mae pobl wedi dweud wrth raglen Wales Live bod profion golwg wedi cael eu cynnal yn eu cartrefi heb fesur pellterau, a heb ystyriaeth i ffactorau fel golau.

Dywedodd CCD bod yr aseswyr ddim yn gymwys i gynnal profion o'r fath, ac mai meddygon neu optegwyr yn unig ddylai eu cynnal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Owen Williams bod pryder bod pobl yn "derbyn llai o arian na'r hyn sydd ganddyn nhw'r hawl iddo"

Yn 么l Owen Williams o CCD, mae'r profion yn achosi pryder i bobl sy'n colli eu golwg.

"Mae aseswyr yn defnyddio'r siartiau o'r pellter anghywir, sy'n gwneud y canlyniadau'n gwbl anghywir," meddai.

"Os yw rhywun yn cael canlyniad anghywir a bod eu golwg yn cael ei bortreadu'n well nag yw e mewn gwirionedd, gall hynny gael effaith negyddol ar os ydyn nhw'n gymwys neu faint maen nhw'n ei dderbyn.

"Felly gallan nhw dderbyn llai o arian na'r hyn sydd ganddyn nhw'r hawl iddo."

'Ddim yn iawn'

Mae gan Simone Lloyd o Faesteg diwmor ar ei nerf optig. Does ganddi ddim golwg yn ei llygad dde, ac ychydig iawn yn ei llygad chwith.

Fe gafodd ei budd-dal ei dorri tua 拢200 y mis yn dilyn asesiad PIP.

Mae hi'n anhapus gyda'r ffordd y cafodd y prawf ei gynnal, yn ystod ymweliad 芒'i chartref, ac yn credu y byddai'n canlyniad wedi bod yn wahanol pe bai optegydd wedi'i gynnal dan amodau clinigol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does gan Simone Lloyd ddim golwg yn ei llygad dde, ac ychydig iawn yn ei llygad chwith

"Roedden ni ar ongl, ac fe wnaeth hi jyst dal y siart i fyny, heb ofyn am y golau na'r ongl," meddai.

"Doedd e ddim yn iawn, ac mae wedi bod yn ergyd fawr i mi.

"Fe wnes i ddechrau teimlo'n isel, roedd fy ngorbryder yn uchel ac roeddwn i'n teimlo fel bod rhaid i mi brofi fy mod i angen ac yn haeddu'r help."

Dywedodd llefarydd ar ran Capita: "Mae ein haseswyr wedi'u hyfforddi'n llawn i benderfynu sut effaith mae colli golwg yn ei gael ar fywyd unigolyn.

"Dydyn ni ddim yn rhoi diagnosis i neb, ac nid ni sy'n gwneud y penderfyniad yngl欧n 芒 faint o arian mae pobl yn ei dderbyn."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU: "Dydy pobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall ddim yn cael eu profi.

"Ar gyfer pobl sydd 芒 pheth olwg bydd yr arbenigwr iechyd yn defnyddio unrhyw dystiolaeth sy'n cael ei ddarparu, ac os nad oes tystiolaeth yn cael ei ddarparu gall asesiad gynnwys prawf golwg os yw hynny'n addas a pherthnasol."