麻豆官网首页入口

Yr AS Chris Davies yn colli ei sedd wedi deiseb galw n么l

  • Cyhoeddwyd
Chris DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Chris Davies wedi "ymddiheuro yn ddiamod" am hawlio treuliau ffug

Bydd isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wedi i dros 10% o'r etholaeth arwyddo deiseb i ddiswyddo'r AS Ceidwadol, Chris Davies.

Ym mis Mawrth fe wnaeth Mr Davies, 51, bledio'n euog i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

Bu'n destun deiseb galw n么l yn ei etholaeth, oedd yn golygu y byddai isetholiad pe bai 10% o'r etholaeth - 5,303 o bleidleiswyr - yn ei arwyddo.

Fe wnaeth 10,005 o bobl arwyddo'r ddeiseb dros gyfnod o chwe wythnos.

Cafodd Mr Davies ddedfryd o wasanaeth cymunedol a dirwy o 拢1,500 yn Llys y Goron Southwark ar 么l iddo gyfaddef y troseddau.

Dywedodd yn dilyn ei ddedfryd ei fod yn "ymddiheuro yn ddiamod" am yr hyn a wnaeth.

Mwyafrif o 8,038

Mewn datganiad dywedodd Mr Davies ei fod yn "siomedig" gyda'r canlyniad, gan ymddiheuro i bobl yr etholaeth am yr hyn a wnaeth.

Dywedodd: "Nawr mae hi'n gwbl gywir i'r bobl roi eu barn ar os ydyn nhw'n dal i fy nghefnogi i fel yr Aelod Seneddol mewn isetholiad.

"Dwi'n gobeithio eu bod nhw, ac rwy'n edrych ymlaen at adennill eu hymddiriedaeth ac adeiladu ar yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni dros y pedair blynedd diwethaf."

Yn etholiad cyffredinol 2017 roedd gan Mr Davies fwyafrif o 8,038 dros y Democratiaid Rhyddfrydol, ddaeth yn ail yn yr etholaeth.

Mae'r etholaeth ym Mhowys, ble ddaeth Plaid Brexit i'r brig yn yr etholiad Ewropeaidd ym mis Mai.

Ffynhonnell y llun, Yui Mok/PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fiona Onasanya oedd y person cyntaf i golli ei sedd o ganlyniad i ddeiseb Galw N么l

Mae deiseb galw n么l yn cael ei lansio pan fo AS yn derbyn dedfryd o garchar neu ddedfryd ohiriedig, neu'n euog o ddarparu gwybodaeth anghywir yngl欧n 芒 hawlio treuliau.

Mr Davies oedd y trydydd AS i wynebu deiseb galw n么l ers iddynt ddod i fodolaeth yn 2016, ond y cyntaf yng Nghymru.

Ym mis Mai, AS Peterborough Fiona Onasanya oedd y cyntaf i golli ei sedd yn y ffordd yma wedi i dros chwarter ei hetholwyr arwyddo deiseb ar 么l iddi gael ei charcharu am ddweud celwydd yngl欧n 芒 throsedd goryrru.

'Mynnu gwell'

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Mae miloedd o drigolion ar draws Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi defnyddio'r cyfle yma i fynnu gwell na gwleidyddiaeth San Steffan, sydd ddim yn cymryd eu pryderon o ddifrif."

Mae disgwyl mai Ms Dodds fydd ymgeisydd y blaid yn yr isetholiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae canlyniad y ddeiseb galw n么l yn ergyd i hygrededd Chris Davies i wasanaethu fel Aelod Seneddol. Ef yn unig sydd ar fai am y llanast yma."

Tom Davies sydd wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer yr isetholiad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi yn yr etholaeth ddydd Gwener

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd Plaid Cymru yn ymgeisio am y sedd, ac fe wnaeth llefarydd o'r blaid awgrymu ddydd Gwener y gallai weithio gyda phleidiau eraill sydd o blaid refferendwm arall ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae sicrhau bod y rheiny ohonom sydd eisiau gweld refferendwm arall yn cydweithio ar bob lefel posib yn allweddol er mwyn cyflawni ein nod," meddai'r llefarydd.

"Byddwn yn edrych ar yr opsiynau yngl欧n 芒 sut allwn ni gydweithio, yn drawsbleidiol, i gyflawni yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed."

'Neges glir'

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Brexit bod canlyniad y ddeiseb galw n么l yn "neges glir bod etholwyr eisiau gwleidyddion y gellir ymddiried ynddyn nhw".

"Mae ein hymgyrch ni wedi dangos pwy sydd wrth y llyw - pobl y wlad hon," meddai.

"Byddwn yn dewis ymgeisydd lleol cryf, ac yn brwydro nid yn unig ar Brexit, ond hefyd ar faterion lleol."

Dywedodd llefarydd o'r Blaid Werdd: "Mae'r ymateb gan etholwyr lleol er mwyn dal eu Haelod Seneddol i gyfrif yn adlewyrchu awydd cynyddol, ar draws y wlad, i gael democratiaeth gynhwysol a chynrychioliadol."