麻豆官网首页入口

'Gwendidau allweddol' yng Ngharchar Berwyn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Carchar BerwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r carchar Categori C wedi'i ddylunio i gartrefu 2,106 o ddynion

Mae arolygwyr yn dweud bod angen rhoi "sylw brys a pharhaus" i fesurau gwarchod y cyhoedd wrth ryddhau carcharorion o Garchar Berwyn yn Wrecsam.

Er mai dim ond chwarter y carcharorion sy'n Gymry, mae tua hanner yn cael eu rhyddhau i gyfeiriad yng Nghymru pan yn gadael.

Yn 么l yr arolygwyr mae Carchar Berwyn yn "drefnus yn gyffredinol", ond ychwanegwyd bod "gwendidau allweddol" yno.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod archwilwyr wedi canmol staff am sefydlu carchar effeithiol ar 么l dechrau o'r dechrau.

Cyffuriau'n 'hawdd' eu cael

Fe wnaeth y carchar yn Wrecsam agor ym mis Ionawr 2017 ar gost o 拢250m.

Mae wedi'i ddylunio i gartrefu 2,106 o ddynion, ond 1,273 o garcharorion oedd yno pan wnaeth Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ymweld 芒'r safle ym mis Mawrth 2019.

Fe wnaeth arolwg cyntaf y carchar ganfod nad oedd "cynllun realistig mewn lle ar gyfer anghenion carcharorion sy'n cael eu rhyddhau i Loegr" o Ebrill 2019 ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r carchar yn Wrecsam wedi bod ar agor ers mis Ionawr 2017

Dywedodd yr arolygwyr hefyd bod cyffuriau "ar gael yn rhy rhwydd" a bod sylweddau yn enwedig yn "fygythiad".

Bu farw Luke Jones, 22 o Flaenau Ffestiniog, yn y carchar ym mis Mawrth 2018 ac mae gwrandawiad cyn-gwest wedi clywed ei bod yn debygol mai cyffur Spice oedd yr achos.

Dywedodd bron i hanner y carcharorion atebodd holiadur gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi bod cael gafael ar gyffuriau yn "hawdd", tra bod chwarter wedi dweud eu bod wedi datblygu problem gyffuriau tra yn y carchar.

Yn 么l yr arolygwyr mae nifer yr ymosodiadau rhwng carcharorion yn is na'r disgwyl, ond mae nifer yr ymosodiadau ar staff yn uwch.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd gan y carchar "gynllun i fynd i'r afael ag achos trais".

Staff yn 'gryfder'

Ychwanegon nhw fod y staff yn "gryfder" i'r safle ond eu bod angen rhagor o gefnogaeth, a bod diffyg profiad yn cael "effaith negyddol".

Ar adeg yr ymweliad ym mis Mawrth roedd tua 75% o'r gweithwyr wedi bod yn y gwasanaeth ers llai na dwy flynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr arolygwyr bod hyfforddiant addysgol a galwedigaethol yn y carchar yn "ardderchog"

"Roedd anghysondebau am sut roedd rheolau'n cael eu gweithredu, roedd ymddygiad gwael yn gallu mynd heb wrthwynebiad a gallai staff gael trafferth i ateb cwestiynau syml gan garcharorion," meddai'r adroddiad.

Er hyn, roedd hyfforddiant addysgol a galwedigaethol yn "ardderchog".

Dywedodd prif gyfarwyddwr Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yng Nghymru, Amy Rees bod y llywodraethwr newydd gymrodd y llyw ym mis Ebrill eisoes yn gweithio ar ddatblygu'r carchar ymhellach.

Ychwanegodd bod hyn yn cynnwys "gweithio'n agosach gyda'r heddlu, canfod cyffuriau anghyfreithlon yn well a chyflwyno system newydd sy'n herio ymddygiad gwael a lleihau trais".