Pryder elusen am gyfnod gwyliau llwglyd i rai plant ysgol

Disgrifiad o'r llun, Mae elusennau yn apelio am roddion bwyd yn ystod yr haf

Wrth i blant ysgol yng Nghymru gyfri'r diwrnodau nes i'r gwyliau haf ddechrau, mae nifer o rieni'n pryderu sut y bydden nhw'n talu'r biliau bwyd.

Mae'r defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru wedi cynyddu 14% o gymharu 芒 nifer y parseli a gafodd eu dosbarthu'r haf diwethaf yn 么l elusen Trussell Trust.

Mae'r banciau bwyd yn disgwyl haf prysur arall eleni.

Mae Gemma yn rhiant o Gaerdydd sydd yn derbyn budd-daliadau, ac mae colli'r clwb brecwast a chinio ysgol am ddim am gyfnod o chwe wythnos yn golygu fod haf anodd o'i blaen yn ariannol.

'Cyfnod brawychus'

"Ar ddiwedd y mis dim ond 拢2 sydd gennai yn weddill yn y cyfrif banc, mae'n gallu bod yn gyfnod brawychus," meddai.

Mae prosiect Chomp yng Nghaerdydd sy'n cael ei redeg gan Eglwys Bedyddwyr Ffordd Albany yn cynnig cymorth i bobl sydd yn yr un sefyllfa.

"Mae plant eisiau bwyta a mwynhau'r haf, ac mae rhaid i chi ddarpau ar eu cyfer," ychwanegodd Gemma.

"Dyna pam mae Chomp mor arbennig, maen nhw yno yn ystod pob gwyliau.

"Mae'n le diogel, ac i mi, mae'n bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau."

Disgrifiad o'r llun, Helen Bull yw rheolwr datblygu Banc Bwyd Caerdydd

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan roddion a grantiau elusennol. Y llynedd roedden nhw'n bwydo 55 person pob sesiwn.

Dywedodd Helen Bull, rheolwr datblygu Banc Bwyd Caerdydd: "Rydym yn pryderu'n fawr fod nifer o deuluoedd yn ei gweld hi'n anodd darparu bwyd ar gyfer eu teuluoedd dros y gwyliau haf.

"Maen nhw'n gorfod darparu mwy o fwyd ar gyfer prydau na maen nhw'n gorfod ei ddarparu yn ystod y tymor ysgol."

Bagiau bwyd

Mae'r Trussell Trust, elusen sy'n rhedeg y rhan fwyaf o fanciau bwyd yng Nghymru, yn dweud fod "bwlch mewn taliadau credyd cynhwysol yn elfen fawr o ran y cynnydd mewn defnydd y banciau bwyd".

Mae Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn dweud fod gwaith a ffigyrau cyflog yn uwch na chwyddiant.

Dywedodd llefarydd mewn datganiad: "Ein blaenoriaeth yw cefnogi pobl i wella eu bywydau drwy weithio, tra hefyd yn helpu teuluoedd incwm isel gyda chostau byw.

"Dyna pam rydym wedi codi'r lwfans personol i gymryd 1.74m o'r bobl sydd ar gyflogau isel allan o'r dreth incwm yn gyfan gwbwl."

Disgrifiad o'r llun, Mae Jane Jenkins yn brifathrawes yn Ysgol Gynradd Moorland, Splott. Bydd yr ysgol yn darparu 50 o fagiau bwyd cyn diwedd y tymor

Mae ambell ysgol yng Nghymru hefyd yn cynorthwyo rhieni yn ystod y gwyliau haf.

Bydd Ysgol Gynradd Moorland yn ardal Splott o'r brifddinas yn darparu 50 o fagiau bwyd cyn diwedd y tymor.

Dywedodd y pennaeth, Jane Jenkins, y byddai rhai teuluoedd yn mynd heb fwyd heb y cymorth.

Bydd 80 cynllun dan raglen Gwella Gwyliau Haf (SHEP), sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol hefyd yn darparu prydau am ddim ynghyd ag addysg ac ymarfer corff i 4,000 o blant ar hyd a lled Cymru.