David Davies: 'Bydd etholiad cyffredinol fis nesaf'

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l David Davies, mae'n anodd gweld unrhyw un yn gallu ffurfio llywodraeth a sicrhau hyder mwyafrif yr aelodau yn Nh欧'r Cyffredin

Mae AS Ceidwadol Mynwy, David Davies yn rhagweld y bydd mwyafrif o ASau yn pleidleisio i ddod 芒 llywodraeth Boris Johnson i ben a sicrhau etholiad cyffredinol.

Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement 麻豆官网首页入口 Radio Wales ei fod yn disgwyl "y bydd etholiad yn cael ei alw cyn diwedd Medi".

Mae Mr Johnson wedi dweud nad yw eisiau cynnal etholiad cyffredinol cyn 31 Hydref, sef y diwrnod y mae'r Deyrnas Unedig i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae yna ddarogan cynyddol y bydd ASau'n cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Petai'r cynnig yn cael cefnogaeth y mwyafrif, byddai ganddo 14 diwrnod yn statudol i geisio sicrhau'r hyder angenrheidiol ond byddai'n rhaid cynnal etholiad cyffredinol petai'n colli ail gynnig o ddiffyg hyder ynddo.

Mae gan lywodraeth Mr Johnson fwyafrif o un yn unig yn Nh欧'r Cyffredin, gan gynnwys cefnogaeth plaid y DUP, wedi i'r Democratiaid Rhyddfrydol gipio sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi ar y Ceidwadwyr mewn isetholiad ddechrau Awst.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod yna "wahaniaeth barn sylweddol" pan fu'n trafod Brexit 芒 Mr Johnson ar ei ymweliad cyntaf yntau 芒 Chymru ers ei ethol

Dywedodd Mr Davies ei fod yn rhagweld y bydd y Prif Weinidog "yn colli cynnig diffyg hyder o fewn y pythefnos cyntaf o ddychwelyd [i D欧'r Cyffredin wedi'r gwyliau haf]."

"Fydd ddim rhaid iddo ymddiswyddo," meddai. "Bydd rhaid iddo ffurfio llywodraeth a gallai Jeremy Corbyn geisio ffurfio llywodraeth hefyd o fewn pythefnos.

"Gallan nhw i gyd geisio ffurfio llywodraeth. Y gwir yw, dydw i ddim yn meddwl bysa unrhyw un ohonyn nhw'n ennill cynnig o hyder.

"Felly, o gwmpas trydedd wythnos mis Medi... fe wnawn ni golli cynnig arall o ddiffyg hyder a bydd yna etholiad."

'Mae opsiynau eraill'

Mae rhai wedi trafod y posibilrwydd o gael AS Llafur neu Geidwadol o'r meinciau cefn i arwain llywodraeth glymblaid dros dro i osgoi Brexit digytundeb a gofyn i'r UE am ohirio'r dyddiad ymadael.

Ond mae Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell wedi dweud na fyddai arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn "fyth" yn camu'n 么l petai'r gwrthbleidiau eraill yn mynnu hynny er mwyn ffurfio gweinyddiaeth glymbleidiol dros dro.

Dywedodd AS Llafur Gorllewin Clwyd, Ruth Jones: "Wrth gwrs, fydden ni'n dymuno i Jeremy arwain llywodraeth dros dro ond mae yna opsiynau eraill.

"Rwy'n meddwl bod Brexit yn fater uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol. Rhaid i ni atal Brexit digytundeb.

"Fe wnawn ni drafod sut mae gwneud hynny droeon. Mae pethau'n esblygu... proses yw e, nid digwyddiad."

Dywedodd Cadan ap Tomos, cadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y byddai'n "annoeth" i'r Ceidwadwyr fynd am etholiad cyffredinol.

"Dydw i ddim yn gweld sut maen nhw'n sicrhau mwyafrif heb rhai o'r seddi maen nhw wedi eu cipio oddi arnom ni yn y gorffennol," meddai.