麻豆官网首页入口

Boris Johnson yn colli ei fwyafrif cyn pleidlais

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, T欧'r Cyffredin

Mae'r AS Ceidwadol Phillip Lee wedi gadael y blaid i ymuno 芒'r Democratiaid Rhyddfrydol cyn y bleidlais allweddol ar Brexit yn San Steffan nos Fawrth.

Mae'n golygu fod y Prif Weinidog wedi colli ei fwyafrif gweithredol yn Nh欧'r Cyffredin.

Mae Boris Johnson wedi addo gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref doed a ddelo, ond mae nifer o ASau sy'n gwrthwynebu gadael heb gytundeb wedi cydweithio ar draws y pleidiau er mwyn ceisio atal hynny rhag digwydd.

Fe wnaethon nhw gyflwyno cynnig am ddadl frys i'r Llefarydd John Bercow, wnaeth gymeradwyo'r cais.

Os fydd y cynnig yn llwyddo fe fyddan nhw'n cyflwyno mesur fyddai'r gorfodi'r Prif Weinidog i ofyn am estyniad i Brexit tan 31 Ionawr oni bai fod ASau'n cymeradwyo cytundeb newydd, neu o blaid gadael heb gytundeb, erbyn 19 Hydref.

Etholiad ar y gweill?

Dywedodd Mr Johnson ei fod am adael gyda chytundeb a bod "momentwm go iawn" yn y trafodaethau ym Mrwsel.

Ond mynnodd fod ymdrechion ASau, gan gynnwys nifer o Geidwadwyr, i basio deddf i rwystro gadael heb gytundeb ar 31 Hydref yn "chwalu unrhyw obaith o gytuno ar dd锚l newydd".

Mae llefarydd o 10 Downing Street wedi dweud y bydd y prif weinidog yn ceisio am etholiad cyffredinol ar 14 Hydref os fydd y mesur yn llwyddo.

Credir y bydd tua 15 o ASau Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn y llywodraeth ar y mesur nos Fawrth.

Pwrpas y mesur yw cymryd rheolaeth o amserlen T欧'r Cyffredin ddydd Mercher, fyddai yn ei dro yn caniat谩u dadl ar orfodi Mr Johnson i ymestyn dyddiad Brexit tan 2020 o dan yr amgylchiadau uchod.