麻豆官网首页入口

Berwyn: Gweithiwr wedi'i gymryd yn wystl gan garcharor

  • Cyhoeddwyd
Carchar BerwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r carchar Categori C wedi'i ddylunio i gartrefu 2,106 o ddynion

Mae'r gwasanaeth carchardai wedi cadarnhau bod gweithiwr wedi cael ei gymryd yn wystl gan garcharor yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam fore Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth carchardai bod y staff wedi delio 芒'r sefyllfa "yn sydyn", ac nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu.

"Mae'r aelod o staff yn cael cefnogaeth gan y carchar a byddem yn gofyn am y gosb gryfaf bosib i'r tramgwyddwr," meddai.

Mae tua 1,300 o garcharorion ar y safle ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, agorodd yn 2017, er bod y carchar yn gallu dal dros 2,100.

Yn gynharach yn yr wythnos fe lwyddodd carcharor i ddringo ar do'r carchar, cyn cael ei arwain i lawr gan swyddogion.