Benthyciad pellach o 拢21m i Faes Awyr Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Mae unig faes awyr rhyngwladol Cymru yn cael benthyciad pellach o goffrau cyhoeddus.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymeradwyo benthyciad o 拢38.2m i Faes Awyr Caerdydd ond mae bellach wedi cytuno i 拢21.2m yn rhagor.

Mae'n golygu bod y cyfanswm bellach sydd ar gael i'r maes awyr, sy'n gwneud colledion ariannol, yn uwch na'r 拢52m y talodd y llywodraeth i'w brynu yn 2013.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y dylid gwerthu'r maes awyr yn 么l i'r sector preifat.

'Costau'n anghymesur i feysydd awyr llai'

Daw'r cyhoeddiad wedi i uwch swyddog ddweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad y byddai'r maes awyr angen cefnogaeth gyhoeddus, yn sgil y ffordd y mae'n cael ei redeg ar hyn o bryd.

Mewn datganiad i ASau, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod cynlluniau i gynyddu nifer y teithwyr yn cael eu llesteirio "gan y costau anghymesur sy'n wynebu meysydd awyr llai'r DU".

"Dydy pwysau rheoleiddiol a mesurau diogelwch ddim yn cael eu rhannu'r gymesur, ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amgylchedd mwy cystadleuol ar gyfer meysydd awyr llai, uchelgeisiol sydd eisiau tyfu ac ehangu."

Dywedodd bod y llywodraeth wedi "cytuno'n ddiweddar i ddarparu cyfleuster benthyciad masnachol estynedig i'r maes awyr o hyd at 拢21.2m i helpu i gefnogi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

"Bydd y maes awyr yn ad-dalu'r benthyciad yn llawn, gyda llog, o dan amserlen ad-dalu a gynlluniwyd."

Ychwanegodd Mr Skates y byddai'r estyniad i'r benthyciad "yn cyflawni gweithgarwch sy'n unol 芒'r cynllun busnes" sy'n cynnwys buddsoddiad sylweddol yn adnoddau'r maes awyr dros y chwe blynedd nesaf.

Mae nifer teithwyr Maes Awyr Caerdydd wedi codi 65% ers 2013, i 1.7m bob blwyddyn, ond fe wnaeth colled cyn treth o 拢6.6m yn 2017/18.

Mynegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russell George, bryderon ynghylch y cyhoeddiad, gan gyhuddo'r llywodraeth Lafur o wneud "llawer o addewidion, ond dim llawer o weithredu" ers prynu "canolfan drafnidiaeth hanfodol" yn 2013.

"Tra'n canmol bwriad Maes Awyr Caerdydd o sicrhau dwy filiwn o deithwyr, mae'r lefelau presennol yn is nag yn 2007, pan gyrhaeddwyd dwy filiwn ddiwethaf," meddai.

"Mae angen gwerthu'r maes awyr yn 么l i'r sector preifat, lle gellir sicrhau buddsoddiad priodol sydd ddim yn ddibynnol ar roi'r baich ariannol ar ysgwyddau pobl Cymru."

Ond mae'r maes awyr "wedi mynd o nerth i nerth ers dod dan berchnogaeth gyhoeddus" yn 么l ei brif weithredwr, sydd hefyd yn pwysleisio'r heriau sy'n wynebu meysydd awyr llai.

Dywedodd Deb Bowen Rees: ""Mae'r estyniad i'r benthyciad yn caniat谩u i'r maes awyr barhau i ganolbwyntio ar ei gynlluniau uchelgeisiol... rydym yn ddiolchgar i ein cyfranddaliwr am gydnabod yr hyn rydym wedi ei gyflawni hyd yma ac am gefnogi ein cynlluniau at y dyfodol."