Etholiad cyffredinol: Pleidiau Aros yn trafod cydweithio

Disgrifiad o'r llun, Cadarnhaodd Adam Price bod Plaid Cymru yn trafod cydweithio yn yr etholiad

Mae pleidiau sy'n cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn trafod cydweithio ar gyfer yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr.

Mae Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan eu bod yn trafod cydweithio mewn etholaethau penodol er mwyn sicrhau bod ymgeisydd sydd o blaid aros yn yr UE yn cael ei ethol.

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, bod ei blaid "dal yn trafod y mater gyda phleidiau eraill sy'n cefnogi aros yn yr UE yn ogystal 芒 thrafod gyda phleidiau'n lleol".

Ychwanegodd bod disgwyl i'r pleidiau ddod i gytundeb ar y mater "dros y dyddiau nesaf".

Mae'r pleidiau'n cefnogi refferendwm arall yngl欧n 芒 Brexit, ac yn cefnogi aros yn yr UE.

Dywedodd cyd-arweinydd y Blaid Werdd, Jonathan Bartley bod "trafodaethau ar y cyd" gyda phleidiau eraill.

Ychwanegodd y byddai "cytundeb tymor byr" i beidio sefyll mewn etholaethau ble mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gryf yn helpu i ethol "bloc mawr o ASau sydd ddim o'r ddwy brif blaid".

'Diddordebau cyffredin'

Cadarnhaodd Syr Ed Davey o'r Democratiaid Rhyddfrydol bod ei blaid yn cymryd rhan yn y trafodaethau gyda Phlaid Cymru a'r Blaid Werdd.

Ychwanegodd bod gan y pleidiau "ddiddordebau cyffredin", a hynny "yn enwedig yngl欧n 芒 Brexit".

"Mae'r pleidiau eraill, sy'n cydnabod mai ni yw'r blaid gryfaf sy'n cefnogi aros yn yr UE, eisiau gweld os oes ffyrdd gallwn ni gydweithio."

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Jane Dodds (chwith) isetholiad Bycheiniog a Sir Faesyfed

Yn ystod yr haf, cytunodd Plaid Cymru a'r Blaid Werdd beidio 芒 chynnig ymgeiswyr yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, er mwyn i ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds gystadlu am y sedd.

Enillodd Ms Dodds y sedd yn erbyn yr ymgeisydd Ceidwadol Chris Davies.