麻豆官网首页入口

Rhoi pleidlais i bobl 16 ac 17 oed mewn etholiadau lleol

  • Cyhoeddwyd
blwch pleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl ifanc 16 ac 17 oed yn debygol o gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r cyngor fel rhan o'r newidiadau mwyaf i system bleidleisio Cymru ers 50 mlynedd.

Bydd deddfwriaeth, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad ddydd Llun, hefyd yn rhoi'r hawl i ddinesyddion tramor sy'n byw yng Nghymru bleidleisio.

Yn ogystal, mae yna gynlluniau i roi'r hawl i garcharorion, sydd wedi bod yn y carchar am lai na phedair blynedd, i bleidleisio mewn etholiadau lleol.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, bod y ddeddfwriaeth yn ymwneud ag "adfywio democratiaeth leol".

Yn 1969 fe ostyngodd oedran pleidleisio ar draws y DU o 21 i 18.

Yn Yr Alban mae pobl ifanc 16 ac 17 oed eisoes yn cael pleidleisio mewn etholiadau lleol ac Albanaidd.

Miloedd yn fwy o bleidleiswyr

Amcangyfrifir y bydd gostwng yr oedran pleidleisio yn ychwanegu 75,000 o bobl at y gofrestr etholwyr.

Bydd cynnwys preswylwyr o dramor yn ychwanegu oddeutu 33,000 o bobl at gofrestr etholiadol yr etholiadau lleol nesaf ym Mai 2022.

Byddai oddeutu 1,900 o garcharorion yn gymwys i fwrw pleidlais.

Mewn deddfwriaeth arall mae'r cynulliad yn bwriadu gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad nesaf yn 2021.

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y 22 awdurdod lleol yn cynnwys:

  • Caniat谩u i bob cyngor penderfynu drosto'i hun pa system bleidleisio i'w defnyddio - Y Cyntaf i'r Felin (FPTP) neu Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV);

  • Ei gwneud yn haws i bobl gael eu cynnwys ar y rhestr etholiadol, trwy roi i swyddogion cofrestru etholiadol y p诺er i ychwanegu pobl at y gofrestr yn awtomatig, heb fod angen iddynt wneud cais;

  • Hwyluso arbrofi gyda diwygiadau i etholiadau llywodraeth leol ar 么l 2022, megis cynnal etholiadau ar ddiwrnodau gwahanol a chael gorsafoedd pleidleisio mewn gwahanol leoedd;

  • Symud at gyfnodau pum mlynedd benodedig rhwng etholiadau cyngor;

  • Rhoi cyfle i bob dinesydd tramor sy'n byw yng Nghymru'r cyfle i bleidleisio mewn etholiad lleol a sefyll ynddynt, waeth beth fo'u cenedligrwydd;

  • Galluogi swyddi i gael eu rhannu yng ngweithrediaeth y cyngor gan gynnwys swydd yr Arweinydd, a diweddaru darpariaethau i alluogi cynghorwyr i fynychu cyfarfodydd cyngor o bell a chael cyfnodau o absenoldeb teuluol;

  • Caniat谩u i brif gynghorau gael eu huno'n wirfoddol i sicrhau, lle y caiff y llwybr hwn ei gymryd, fod y broses yn cael ei chwblhau yn drefnus ac yn dwyn ffrwyth yn y ffordd orau bosibl i ddefnyddwyr gwasanaethau.

'Mesur o bwys'

Dywedodd Julie James bod gweinidogion yn "credu mewn llywodraeth leol gref" a'i bod am iddi "ffynnu".

"Rwyf am i bobl Cymru deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a'u cefnogi'n dda gan wasanaethau cyhoeddus modern, ac rydyn ni am i'r berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru fod yn aeddfed a chanolbwyntio ar ein hagenda gyffredin - sef darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell i bawb, gan helpu pobl y mae arnynt angen cymorth, pan fo'i angen fwyaf," meddai.

"Mae'r Mesur yn cael ei gyflwyno ar adeg o gyni parhaus, pan fo gwahanol fathau o berthynas a thechnoleg yn newid y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymwneud 芒'i gilydd ac 芒'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

"Felly, ugain mlynedd ar 么l datganoli, mae hwn yn Fesur Llywodraeth Leol o bwys sy'n adlewyrchu hynt datganoli ac fe fydd yn darparu pecyn o ddiwygiadau pwysig, gan gynnwys diwygio etholiadau llywodraeth leol.

"Mae'n anelu at roi ffyrdd newydd i lywodraeth leol o gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau ar yr adeg heriol hon, wrth ailfywiogi democratiaeth leol yma yng Nghymru."

Mae'r Mesur yn cael ei gyflwyno ger bron y cynulliad wedi iido gael ei ddatblygu dros bum mlynedd.