麻豆官网首页入口

Cyfarfod i drafod 'argyfwng' papur bro Eco'r Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Eco'r WyddfaFfynhonnell y llun, ecorwyddfa.co.uk

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Fercher i drafod sefyllfa "argyfyngus" papur bro Eco'r Wyddfa yn Eryri.

Mae'r gwirfoddolwyr yn rhybuddio y bydd yn rhaid i'r papur ddod i ben os na fydd gwirfoddolwyr newydd, ieuengach yn camu i'r adwy.

Cafodd y misolyn, sy'n cynnwys straeon o gymunedau yn nalgylch Dyffryn Peris, ei lansio yn 1976.

Dywedodd Tony Elliott, cadeirydd y pwyllgor gwaith, fod angen "gwaed newydd" er mwyn achub y papur.

"Mae'n argyfwng bellach - os na gawn ni rywun, mae'n bosib ella bydd rhaid dod 芒'r papur i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mawrth," meddai.

"Fel lot o bapurau bro, mae lot o'r swyddogion yn heneiddio ac mae 'na lai o bobl isio cymryd cyfrifoldebau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Papurau bro ar werth mewn siop yng Nghaernarfon

"'Da ni angan swyddogion o'r newydd mewn swyddi pwysig - fel yr ochr hysbysebu, er enghraifft.

"Mae'r papur wedi bod yn mynd ers 1976 - ac mae rhai o'r swyddogion wedi bod yn gwirfoddoli dros y 43 mlynedd.

"Dydy llawer ohonom ni ddim yn hyderus gyda pheth o'r dechnoleg newydd."

'Peth ola' ydan ni isio'

"Be' sy'n drist ydy mae o'n bapur da, yn bapur swmpus," meddai Mr Elliott.

"Ond mae 'na lot o'r gwaith yn disgyn ar yr un ysgwydda', ac mae 'na lai o 'sgwydda'!

"Y peth ola' ydan ni isio ydy dod 芒'r Eco i ben - dim ar chwarae bach ma' rhywun yn siarad am y peth hyd yn oed.

"I rywun o'r ardal, mae o'n ffordd o wneud rhywbeth i'r gwahanol gymunedau yn y dalgylch. 'Da ni'n chwilio am bobl efo syniadau eu hunain."

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal nos Fercher, 27 Tachwedd am 19:00 yn Sefydliad Coffa Llanrug.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol