麻豆官网首页入口

Gwobrwyo merch 12 oed am ei dewrder wrth frwydo canser

  • Cyhoeddwyd
Mia Lloyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Heb fy nghoes, Mia ydw i o hyd, ond heb chwaraeon, nid Mia ydw i"

Mae merch 12 oed o Aberteifi wnaeth golli ei choes o ganlyniad i ganser wedi ennill Gwobr Chwaraeon Cymru am ei dewrder ac ysbryd positif.

Cyn ei phen-blwydd yn 10 oed cafodd Mia Lloyd ddiagnosis o Ostesarcoma - math prin o ganser.

Roedd tiwmor yn ei choes a chanser oedd wedi lledu i'w hysgyfaint.

"Mae canser wedi newid fy nghorff i ond 'dyw e ddim wedi newid fy hoffter i o chwaraeon," meddai ar 么l clywed ei bod wedi ennill Gwobr Person Ysbrydoledig y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru eleni.

"Roedd yn sioc fawr ac roeddwn i'n teimlo'n emosiynol iawn - roeddwn i'n flin ond yn bennaf yn ofni beth oedd yn mynd i ddigwydd i mi."

'Yr opsiwn gorau i mi'

Yn ystod 10 mis o gemotherapi yn Ysbyty Plant Noah's Ark yng Nghaerdydd, fe wnaeth Mia y penderfyniad anodd i gael torri ei choes uwch ben ei phen-glin.

"Hwnnw oedd yr opsiwn gorau i mi oherwydd roeddwn i wir eisiau dychwelyd i redeg trac cyn gynted 芒 phosib," meddai.

Ychwanegodd fod chwaraeon wedi chware rhan bwysig yn ei bywyd yn dilyn y driniaeth.

Ymweliad gan swyddog gyda Chwaraeon Anabledd Cymru, Gemma Cutter roddodd obaith i Mia, gan s么n am y cyfleoedd chwaraeon a'r gefnogaeth oedd ar gael iddi.

"Mae stori Mia mor bwerus," meddai Ms Cutter.

"Mae hi wedi troi popeth mae hi wedi gorfod ei wynebu mewn oedran mor ifanc yn rhywbeth positif.

"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at weld Mia yn parhau i rannu'r neges bod unrhyw beth yn bosib, dim ond i chi roi eich meddwl arno."

Ychwanegodd: "Mae Mia yn un o'r bobl fwyaf ysbrydoledig i mi eu cyfarfod erioed ac mae'n haeddu pob cydnabyddiaeth."

'Byw bywyd llawn'

Erbyn hyn mae Mia, sy'n gefnogwr brwd o'r Scarlets, yn cymryd rhan mewn athletau, p锚l fasged cadair olwyn, nofio, golff, dringo, sg茂o wedi'i addasu a phara-feicio.

"Rydw i jest eisiau byw bywyd llawn, iach, hapus ac anturus," meddai.

"Mae canser wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth o lwyddo."

Bydd y Wobr Person Ysbrydoledig y Flwyddyn yn cael ei chyflwyno yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru, gyda'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Celtic Manor ar 10 Rhagfyr.