麻豆官网首页入口

Teyrngedau i'r actor Monty Python, Terry Jones

  • Cyhoeddwyd
Terry JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r actor Terry Jones, sydd wedi marw yn 77 oed.

Daeth yr actor, a gafodd ei eni ym Mae Colwyn, i amlygrwydd fel aelod o griw Monty Python.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu ei fod wedi marw yn ei gartref yng ngogledd Llundain nos Fawrth "gyda'i wraig wrth ei ymyl yn dilyn brwydr hir, dewr eithriadol, ond wastad mewn hwyliau da gyda math prin o ddementia, FTD".

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud: "Rydym oll wedi colli dyn rhadlon, doniol, cynnes, creadigol a gwirioneddol serchus, ac mae ei hunaniaeth ddigyfaddawd, dealltwriaeth ddygn a hiwmor eithriadol wedi rhoi pleser i filiynau o bobl dros chwe degawd.

"Bydd ei waith gyda Monty Python, ei lyfrau, ffilmiau, rhaglenni teledu, cerddi a gwaith pellach yn parhau am byth, yn waddol priodol i wir bolymath."

Ffynhonnell y llun, Stanley Bielecki Movie Collection/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Terry Jones yn rhan Mr Creosote, gyda John Cleese, yn y ffilm Monty Python's The Meaning of Life yn 1983

Fe wnaeth Terry Jones ymddangos yn y gyfres deledu Monty Python's Flying Circus ac yn ffilmiau'r criw comedi anarchaidd.

Fe gyfarwyddodd ddwy o'r ffilmiau, Life of Brian a The Meaning of Life, a chyd-gyfarwyddo The Holy Grail gydag aelod arall o'r criw, Terry Gilliam.

Yn 2016 fe gafodd wobr arbennig am ei gyfraniad i'r byd ffilm a theledu yn seremoni BAFTA Cymru - gwobr a gafodd ei chyflwyno iddo gan ei gyd-aelod o griw Monty Python, Michael Palin.

Dyna oedd ei ymddangosiad cyhoeddus olaf yng Nghymru - wythnosau cyn iddo gyhoeddi ei fod yn byw gyda math difrifol o ddementia.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Terry Jones (dde) yn cyrraedd seremoni Bafta Cymru yn 2016 gyda Michael Palin

Terry Jones wnaeth agor Theatr Colwyn ar ei newydd wedd yn swyddogol yn 2011.

Dywedodd bryd hynny bod y theatr Colwyn yn agos i'w galon oherwydd bod ei daid wedi arwain y gerddorfa yno yn y 1930au, ac roedd ei fam a'i ewythr hefyd wedi perfformio ar lwyfan y theatr.

Dywedodd hefyd unwaith ei fod wastad yn teimlo'n "Gymreig iawn" er bod ei fam yn hanu o Bolton a'r teulu wedi symud i Surrey pan roedd yn bump oed.

Mae'n gadael gwraig, Anna Soderstrom, a thri o blant, Bill, Sally a Siri.

Mae'r teulu wedi diolch "staff meddygol a gofalwyr ardderchog Terry am wneud y blynyddoedd diweddaraf nid yn unig yn oddefadwy ond, yn aml, yn llon...

"Rydym yn ddiolchgar ein bod wedi byw ym mhresenoldeb g诺r talentog eithriadol, chwareus a hapus."