Pryder ymhlith staff yr Urdd wedi adolygiad annibynnol

Mae pryderon wedi codi ymhlith rhai o staff Urdd Gobaith Cymru yn sgil adolygiad annibynnol y llynedd.

Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar waith Adran Ieuenctid a Chymunedau'r mudiad ieuenctid.

Mae'r Urdd wedi cadarnhau eu bod "yn y broses o gyflwyno'r argymhellion ac ymgynghori gyda staff yr adran" cyn i reolwyr a swyddogion adnoddau dynol weithredu'r camau nesaf.

Pwrpas yr adolygiad, medd yr Urdd, oedd sicrhau eu bod "yn parhau i gynnig y profiadau a'r cyfleoedd gorau posib i blant a phobl ifanc Cymru".

Ond mae rhaglen Post Cyntaf ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru wedi clywed pryderon gan arweinyddion aelwydydd a gweithwyr gwirfoddol ar lawr gwlad y gallai'r camau nesaf olygu newid i'r strwythur staffio presennol yn y swyddfeydd rhanbarthol.

Maen nhw hefyd yn honni fod yr amserlen wedi bod yn rhy dynn, wrth drafod a chyflwyno'r argymhellion.

'Pellhau o gymunedau'

Cafodd cwmni annibynnol ei gomisiynu i adolygu gwaith yr adran ar ddiwedd 2019, ac mae ymddiriedolwyr yr Urdd eisoes wedi cymeradwyo'r "argymhellion arfaethedig".

Roedd y broses adolygu'n cynnwys siarad ac ymgynghori ag "ystod eang" o bobl, gan gynnwys staff a gwirfoddolwyr.

Yn 么l unigolion sydd wedi siarad 芒'r Post Cyntaf, fe ddechreuodd yr adolygiad ym mis Gorffennaf ond doedd aelwydydd heb gael gwybodaeth lawn amdano.

Mae hynny wedi achosi anniddigrwydd ac mae yna bryder hefyd fod y mudiad yn pellhau oddi wrth y cymunedau ac aelwydydd traddodiadol.

Yn 么l arweinydd un aelwyd amlwg, mae yna sibrydion y gallai swyddogion sy'n gyfrifol ar hyn o bryd am ddatblygu gweithgaredd mewn sir benodol, fod yn gyfrifol, yn hytrach, yn y dyfodol am feysydd penodol, fel chwaraeon neu'r Eisteddfod a'r celfyddydau.

Pryder arall ganddyn nhw yw'r posibilrwydd y bydd y swyddogion yn gyfrifol am dri rhanbarth - cam y maen nhw'n ofni y bydd yn arwain at golli ffocws a gormod o ganoli o fewn yr Urdd.

Dydy'r Urdd heb gadarnhau eto beth yw'r argymhellion.

Dywedodd llefarydd: "Pwrpas yr adolygiad oedd cynnal arolwg agored o'r adran er mwyn sicrhau fod yr Urdd yn parhau i gynnig y profiadau a'r cyfleoedd gorau posib i blant a phobl ifanc Cymru ynghyd ag edrych i'r dyfodol wrth i ni anelu at ddenu cynulleidfaoedd a phartneriaethau newydd.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o'r broses ac yn parhau gyda'u gwaith o gynnal gweithgareddau yn ein cymunedau drwy gyfrwng y Gymraeg."

Doedd yr Urdd ddim am ymateb i'r pryderon ynghylch yr argymhellion ar hyn o bryd gan na fyddai'n addas yn ystod y cyfnod ymgynghori.