麻豆官网首页入口

Sefydlu Ysgol Milfeddygaeth gyntaf Cymru yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
trin lloFfynhonnell y llun, Anthony Pugh
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae galwadau ers degawdau am sefydlu gradd mewn milfeddygaeth yng Nghymru

Bydd modd i fyfyrwyr gymhwyso fel milfeddygon drwy astudio yng Nghymru am y tro cyntaf o fis Medi 2021 ymlaen.

Ddydd Gwener, bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru yn cael ei lansio'n swyddogol yn Aberystwyth.

Bydd y sefydliad yn caniat谩u i fyfyrwyr ddilyn gradd Baglor Gwyddor Filfeddygol (BVSc) newydd fydd yn cael ei chynnig ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygaeth Frenhinol.

Bydd modiwlau o'r cwrs gradd hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd myfyrwyr yn astudio am ddwy flynedd yn Aberystwyth, cyn cwblhau tair blynedd yn y Coleg Milfeddygaeth Frenhinol yn Swydd Hertford.

Bydd cyfle i ymgeisio am le yn yr hydref, gyda'r myfyrwyr cyntaf yn cyrraedd ym mis Medi'r flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dafydd Alun: 'Newyddion calonogol iawn'

Dywedodd Dafydd Alun, un o filfeddygon Milfeddygfa Ystwyth yn y dref, fod y gallu i astudio rhan o'r cwrs drwy'r Gymraeg yn rhywbeth i'w groesawu.

"Mae'n newyddion calonogol iawn," meddai.

"Byddwn i wedi hoffi gallu gwneud yr un peth 20 mlynedd yn 么l, ac mae'n gr锚t bod rhywun yn gallu astudio rhan o'r cwrs yn y Gymraeg.

"Mynd allan i ffermydd y byddaf i fwyaf. Mae rhan helaeth o ffermydd yr ardal yn siarad Cymraeg ac yn Gymraeg rydym ni'n gweithio o ddydd i ddydd felly mae'r gallu yna i gymhwyso rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn beth bendigedig."

Cyn sefydlu'r ysgol newydd yn Aberystwyth, y sefydliadau milfeddygol agosaf i fyfyrwyr o Gymru yn ddaearyddol oedd ym Mryste neu Lerpwl.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist o'r Ganolfan Addysg Milfeddygaeth fydd yn Aberystwyth