麻豆官网首页入口

Galw am sicrhau rhagor o offer diogelwch o dramor

  • Cyhoeddwyd
PPEFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael gafael ar offer diogelwch personol (PPE) o dramor.

Daw'r alwad wedi i Lywodraeth Gogledd Iwerddon archebu gwerth 拢170m o PPE gyda chwmni yn China.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau cyflenwad, ond mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn credu y dylai Cymru sicrhau ei gyflenwad ei hun.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn gwneud "pob ymdrech posib" i gael gafael ar offer, sy'n cynnwys "trafod gyda chyflenwyr cenedlaethol a rhyngwladol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Adam Price yn credu y dylai Cymru sicrhau ei gyflenwad PPE ei hun

Daw wrth i ddau gorff meddygol blaenllaw - TUC Cymru a'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghymru - gyhoeddi neges ar y cyd yn galw am "eglurder" gan Lywodraeth Cymru ar PPE.

Mae undeb Unsain Cymru wedi mynd ymhellach, gan ddweud bod diffyg offer diogelwch yn "lladd" staff rheng flaen.

Yn 么l Mr Price, mae wedi cael caniat芒d gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford i "ymchwilio i gydweithio rhyngwladol".

Ond mae neges Twitter gan Weinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan yn awgrymu mai ei hadran hi fydd yn arwain yr ymdrechion.

Mae Mr Price wedi ysgrifennu at Lysgennad China, Liu Xiaoming, ac mae wedi cael ateb yn dweud y byddai China yn fodlon "darparu cymorth".

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n gwneud pob ymdrech i gael PPE ar gyfer yr ymateb i coronafeirws yng Nghymru.

"Yn ogystal 芒'n ffynonellau traddodiadol yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a thrafod 芒 chyflenwyr newydd yn genedlaethol a rhyngwladol, ry'n ni'n gwneud defnydd llawn o'n rhwydwaith o swyddfeydd tramor.

"Mae ein swyddfeydd, yn enwedig yn China, wedi chwarae r么l bwysig yn adnabod ffynonellau PPE."