麻豆官网首页入口

Pryder cyn wleidydd am brawf Covid-19 claf yn Ysbyty Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysbyty Gwynedd

Mae cyn-aelod seneddol Llafur wedi lleisio ei phryderon am brofion coronafeirws yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dilyn marwolaeth ei g诺r.

Cafodd g诺r Betty Williams, Evan Williams, ei brofi am Covid-19 ar 么l cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd Bangor.

48 awr yn ddiweddarach fe ddaeth canlyniadau'r prawf hwnnw'n 么l yn negyddol, ac fe gafodd ei symud i ward gyffredinol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Betty Williams yn cynrychioli Conwy rhwng 1997-2010

Yno fe gafodd ddiagnosis o niwmonia dwys.

Dywedodd ei bod wedi cael deall wythnos diwethaf fod ei g诺r wedi derbyn ail brawf am coronafeirws ddiwrnod ar 么l y prawf cyntaf, a hynny am fod staff yn credu eu bod wedi colli'r prawf cyntaf.

Nid dyna oedd yr achos mewn gwirionedd meddai, ac fe ddaeth yr ail brawf yn 么l yn negyddol hefyd.聽Fe dderbyniodd brawf arall ddiwrnod cyn iddo farw, a'r tro hwn roedd canlyniad y prawf yn un positif.

Dywedodd Betty Williams, Cyn Aelod Seneddol Conwy rhwng 1997-2010, wrth raglen y Post Cyntaf: "Beth sy'n fy mhoeni fi fwyaf am hyn - mae fy nghalon i'n gwaedu dros bobl eraill hefyd.

"Os oedd y ddau brawf cyntaf yn negyddol, a'r prawf olaf - sef diwrnod cyn iddo fo farw - yn bositif, mae o unai wedi ei bigo fo i fyny yn Ysbyty Gwynedd.

"Ond os ydi'r ddau brawf gyntaf ddaeth yn 么l yn negyddol wedi bod yn anghywir, ac mae 'na gyhoeddusrwydd mawr wedi cael ei roi i hynny...fod o'n positif o'r diwrnod cyntaf yr aeth o i mewn - mae o wedi mynd i mewn hefo fo ac oherwydd hynna dwi'n wirioneddol poeni ei fod o wedi ei basio fo ymlaen i staff a chleifion eraill.

"A dwi'n meddwl fod hynny, cyn belled ag y mae Ysbyty Gwynedd yn y cwestiwn, yn beth difrifol iawn iawn.

Ychwanegodd: "Mae hynny yn fy mhoeni fi. Dwi wedi cael trafodaeth gydag uwch swyddogion yna ac maen nhw r诺an yn trio darganfod pwy oedd ar ddyletswydd yn yr holl gyfnod mae Evan wedi bod yn glaf ar y ward gyffredinol, iddyn nhw gael mynd ar eu holau nhw a'u profi nhw."

Wrth ymateb, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mai eu dyletswydd nhw yw gwarchod preifatrwydd unigolion sy'n cael eu profi a'u trin am Covid-19, felly fyddan nhw ddim yn gwneud sylw ar amgylchiadau yn unrhyw un o'u safleoedd.

"Hoffwn ddiolch i'n staff sy'n gweithio yn ddiflino i ofalu am ein holl gleifion ac rydym yn annog pobl i ddilyn y cyngor ac aros adref er mwyn helpu gwarchod eu hunain, eu teuluoedd a gwasanaethau'r GIG."

Llywodraeth Cymru'n cydymdeimlo

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymateb, gyda llefarydd yn dweud: "Rydym yn cydymdeimlo a Mrs Williams a'i theulu ar yr adeg drist yma.

"Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi sefydlu proses i adolygu marwolaethau mewn ysbytai pan fo aelodau o'r teulu'n codi pryderon.

"Tan y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal, ni fyddwn yn gwneud sylw pellach.

"Mae gan sefydliadau GIG Cymru bolis茂au a gweithdrefnau cadarn i atal a rheoli haint mewn ysbytai, yn cynnwys rheoli cleifion heintus a chynnal profion Covid-19."