麻豆官网首页入口

Cannoedd o swyddi BA dan fygythiad yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
British Airways planes at Cardiff AirportFfynhonnell y llun, PA Media

Mae cannoedd o swyddi cwmni British Airways dan fygythiad yn ne Cymru.

Dywedodd BA eu bod wedi dechrau ar gyfnod ymgynghori 45 diwrnod efo'r gweithwyr ar dri safle - Llantrisant, Y Coed Duon, a'r Rhws.

Mae'r cwmni'n cyflogi 901 o weithwyr yn y de.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates ei fod wedi trafod y peryglon o ddiswyddo 399 o'r gweithwyr gyda'r cwmni.

Safleoedd y cwmni

Nid yw BA yn hedfan awyrennau o unrhyw faes awyr yng Nghymru, ond mae ganddynt safleoedd peirianneg a chynnal a chadw yma. Mae'r cwmni yn cynnal a chadw ei fflyd awyrennau yn y Rhws.

Mae'r cwmni yn ymgynghori gyda'r undebau yngl欧n 芒'r newidiadau y maent yn eu hargymell.

Dywedodd Ken Skates ei fod wedi dweud wrth y cwmni fod "angen gostwng y nifer" o weithwyr sydd yn wynebu diswyddiadau.

"Fe fydd ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal fydd yn cynnwys yr undebau hefyd.

"Fy ngobaith yw y bydd cyfle i ni drafod gyda'r gweithwyr yn y safleoedd hyn yn ystod yr ymgynghoriad er mwyn i ni allu cynnig pob darn o gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru."

Ychwanegodd fod y sector awyrennau'n wynebu "ansicrwydd anferth" a bod cwmn茂au fel BA yn crebachu o ganlyniad i coronafeirws.

Galwodd hefyd am fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU, gan ddweud ei fod "yn hanfodol fod cefnogaeth yn dod o Lywodraeth y DU i gefnogi'r sector awyrennau yn cynnwys y degau o filoedd o swyddi sy'n rhan o sector llwyddiannus iawn yng Nghymru."

'Gwarchod swyddi'

Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Rydym yn gweithredu nawr er mwyn ceisio gwarchod cymaint o swyddi ag sy'n bosib.

"Mae'r diwydiant awyrennau'n wynebu'r newid strwythurol mwyaf yn ei hanes, ynghyd 芒 wynebu economi byd eang sydd wedi gwanhau'n ddifrifol.

"Rydym wedi ymrwymo i ymgynghori'n agored gyda'r undebau a'n pobl wrth i ni baratoi am ddyfodol newydd."

Ymgynghori yn 'amhosib'

Dywedodd Richard Munn, swyddog rhanbarthol undeb Unite, y byddai'r cyhoeddiad yn ergyd drom i aelodau'r undeb a'u teuluoedd.

"Bydd hefyd yn niweidiol i'r economi yn ne-ddwyrain Cymru," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Safle BA yn Y Coed Duon, lle maent yn cynnal a chadw dodrefn a chyfarpar mewnl eu hawyrennau

"Mae nifer o'r rhai sydd dan fygythiad o golli eu swyddi i ffwrdd ar ffyrlo o'r gwaith dan Gynllun Cadw Swyddi y llywodraeth, cynllun sy'n amlwg wedi ei fwriadu ar gyfer "cadw" swyddi. Mae hefyd yn golygu bod ymgynghori ystyrlon yn amhosib.

"Felly mae Unite yn ystyried yr ymgynghoriad yn anghyfreithlon ac yn mynnu fod BA yn tynnu eu rhybuddion diswyddo yn 么l ac yn dechrau trafodaethau ystyrlon efo Unite.

"Bydd yr undeb yn gwneud popeth yn ei allu i helpu ei aelodau yn BA yn y cyfnod yma."

'Teimlad digalon'

Dywedodd un o'r gweithwyr yn safle BA yn Y Coed Duon, nad oedd am gael ei enwi, fod y newyddion yn giaidd:

"Mae'r gwaith wedi bod yma ers 20 mlynedd, ac mewn chwinciad mae o wedi mynd.

"Mae'r rhain yn swyddi da rownd fan hyn, a dwi ddim yn gwybod be fydd y bechgyn i mewn fa'na yn ei wneud yn awr."

"Mae'n deimlad digalon iawn, ydi wir."

Ymateb Gwleidyddol

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Aelod y Senedd dros Ganol De Cymru, y Ceidwadwr Andrew RT Davies: "Dyma newyddion torcalonnus i'r gweithwyr yn y tri safle British Airways yn ne Cymru.

"Rwy'n cofio pan gafodd y safle ei ddatblygu gyntaf yn y Rhws ac mae'r safle cynnal a chadw yma nawr yn cyflogi dros 650 o weithwyr, ac mae'n allweddol i'r gwaith cynhyrchu yn y safleoedd eraill ym Mhont-y-clun a'r Coed Duon.

"Mae'r diwydiant awyrennau wedi dioddef yn enbyd o achos coronafeirws ac fe fydd y newyddion yn ergyd anferth i weithwyr caled BA a'r rhanbarth."

Ychwanegodd: "Mae rhain yn swyddi o safon uchel fydd yn anodd eu hailgreu'n hawdd ac mae hyn yn tanlinellu'r pwysigrwydd o geisio ail-sefydlu'r economi unwaith to.

"Mae tswnami economaidd ar ei ffordd a dim ond y don gyntaf oedd hon. Rhaid cael arweinyddiaeth ddewr yn San Steffan a Bae Caerdydd i sicrhau fod gan bobl swyddi i ddychwelyd iddyn nhw."