麻豆官网首页入口

Coronafeirws: Papurau lleol yn brwydro i oroesi

  • Cyhoeddwyd
newspapersFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o staff Newsquest wedi ymuno a chynllun saib cyflog y llywodraeth fel rhan o'r ymateb i argyfwng coronafeirws

Mae papurau newydd lleol mewn perygl o ddiflannu yn ystod pandemig coronafeirws. Dyna mae golygyddion papurau newydd yn ei rybuddio.

Tra bod nifer o ddarllenwyr h欧n yn methu gadael eu cartrefi i brynu eu papurau dyddiol, mae gwerthiant wedi gostwng yn ystod y cyfnod clo.

Yn 么l un academydd blaenllaw a golygydd gwefan newyddion , gallai colli papurau lleol adael gwagle mawr ac fe ddylai Llywodraeth Cymru ystyried ariannu'r sector.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn cynnig nifer o grantiau a chefnogaeth ariannol penodol i'r diwydiant er mwyn cefnogi newyddiaduraeth a chyhoeddiadau i oroesi yn ystod y pandemig.

Torri cyflog newyddiadurwyr

Mae un o bob pump o staff Reach, sy'n cynhyrchu y Daily Post a'r Western Mail bellach ar saib cyflog fel rhan o gynllun ffyrlo y llywodraeth.

Yn y cyfamser, mae staff y Wrexham Leader, sy'n eiddo i Newsquest, wedi gweld toriad cyflog yn ystod yr argyfwng.

Yn 么l Dr Ifan Morgan Jones, darlithydd mewn newyddiaduraeth ym mhrifysgol Bangor, byddai colli papurau lleol yn gadael bwlch mawr o ran gohebu ar gynghorau lleol a llysoedd.

"Mae gan hynny sgil effaith amlwg ar ddemocratiaeth o ran etholiadau cynghorau, comisiynwyr yr heddlu, yn ogystal ag wrth ddewis Aelodau o Senedd Cymru a San Steffan i'n cynrychioli."

Dirywiad y diwydiant

Mae rhai papurau newydd yn cynnig dosbarthu papurau am ddim yn ystod y cyfnod clo er mwyn i'w darllenwyr dderbyn eu papurau lleol yn ddiogel ar eu stepen drws. Mae eraill wedi cyflwyno taliadau ar eu tudalennau we ar gyfer straeon penodol.

Mae'r diwydiant wedi bod yn gwanhau ers blynyddoedd wrth i fwy o bobl droi at y we i ddarllen newyddion. Mae nifer o bapurau wythnosol a dyddiol wedi dod i ben dros y blynyddoedd diweddar gan arwain at gau swyddfeydd a diswyddo gohebwyr.

Ond mae ffigurau diweddara y diwydiant dosbarthu, gan yr ABC, (Audit Bureau of Circulations) yn dangos bod gwerthiant papurau newydd y DU wedi disgyn yn sylweddol ers dechrau'r cyfnod clo.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwerthiant papurau newydd wedi bod yn gostwng ers sawl blwyddyn

Mae ffigurau yn dangos bod gwerthiant papurau cenedlaethol wedi plymio hefyd. Does yr un o'r papurau cenedlaethol mawr wedi gwerthu dros un miliwn o gop茂au'r dydd wrth i ddarllenwyr osgoi'r siopau yn ystod y cyfnod clo.

Mae'r ABC nawr wedi cyhoeddi na fyddan nhw yn cyhoeddi eu ffigurau gwerthiant mwyach oherwydd pryderon am naratif negyddol o ddirywiad mewn gwerthiant papurau newydd.

Reach, neu Trinity Mirror gynt, sydd berchen ar y nifer mwyaf o bapurau rhanbarthol yng Nghymru ac maen nhw'n dweud bod hysbysebion a dosbarthiad wedi cael 'eu taro yn sylweddol ers i'r cyfnod clo ddechrau."

Mae'r cwmni yn cynhyrchu pedwar papur dyddiol, yn cynnwys y Daily Post, y South Wales Echo, y Western Mail, a'r Wales on Sunday, yn ogystal a 13 o bapurau wythnosol yng Nghymru.

Mae hefyd yn rheoli gwefannau Wales Online a North Wales Live.

Cymorth ariannol?

Yn 么l Dr. Morgan Jones, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy.

"Yn fy marn i mae angen i Lywodraeth Cymru chwarae r么l ehangach wrth ariannu newyddiaduraeth lleol a chenedlaethol yng Nghymru.聽

"Mae yna bryderon yngl欧n 芒 chyhuddiadau o duedd - ond os yw'r llywodraeth yn ariannu corff annibynnol sydd yn penderfynu sut orau i'w wario ac yn rheoleiddio'r diwydiant ni ddylai hynny fod yn broblem.

"Wedi'r cyfan mae darlledwyr cyhoeddus fel y 麻豆官网首页入口 eisoes yn derbyn arian cyhoeddus ond oherwydd eu bod yn gyrff annibynnol i'r llywodraeth mae'r mwyafrif yn derbyn nad ydynt yn dangos ffafriaeth."

Niferoedd digynsail

Ond mae Prif Olygydd Media Wales, Paul Rowland, yn dweud bod y papur, sydd hefyd dan adain Reach, wedi ymrwymo i'w darllenwyr yn ystod y pandemig hwn.

"Maen nhw'n dod aton ni mewn niferoedd digynsail i gael y newyddion a'r wybodaeth diweddaraf. Mae ganddon ni fwy o ddarllenwyr arlein nag erioed a lefel o ymrwymiad i'n teitlau print ni sy'n cynhesu'r galon.

"Ar draws y busnes, mae'r modd mae'n newyddiadurwyr ni wedi taclo straeon mwyaf eu cenhedlaeth - nid yn unig o ran symud ein holl weithdrefnau i fod o adref - wedi bod yn ysbrydoliaeth."

Ffynhonnell y llun, Craig Colville
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Susan Perry, mae papurau lleol yn wynebu brwydr i geisio goroesi

Ar ddechrau'r cyfyngiadau coronafeirws, fe gyhoeddodd Newsquest y byddai nifer o staff yn cael eu rhoi ar ffyrlo ac eraill yn wynebu toriad cyflog. Newsquest sydd biau papurau fel y South Wales Argus, Tivyside Advertiser a'r Penarth Times.

Yn 么l Susan Perry, un o olygyddion Newsquest yng ngogledd Cymru, mae papurau fel y Wrexham Leader yn wynebu brwydr go iawn i oroesi.

"Ry'n ni'n deall yn iawn bod pobl yn fwy amharod i adael eu tai i gasglu papur newydd," dywedodd.

Ychwanegodd Ms Perry bod cyllid o werthiant yn hanfodol i sicrhau bod papurau newyddion yn parhau i ddarparu newyddiaduraeth lleol. Mae'n apelio ar ddarllenwyr i ddal ati i gynnal eu papurau lleol drwy'r cyfnod heriol hwn.

"Mae newyddiaduraeth leol yn gwbl hanfodol, ac ry'n ni wedi brwydro'n galed dros ein cymunedau am sawl mlynedd," dywedodd.

"Mae'r diwydiant newyddion yn wynebu brwydr go iawn i oroesi. 'Dan ni wedi bod yna i'n darllenwyr ni erioed, r诺an 'dan ni angen iddyn nhw fod yna i ni."

Ymateb y llywodraeth

Wrth ymateb i'r alwad i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy, dywedodd llefarydd:

"Mae'r sector newyddiaduraeth hyper-leol yn cynnig ffynhonnell bwysig o newyddion sydd o ddiddordeb lleol, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn pan mae cymunedau ei angen fwyaf.

"Rydym wedi cymeradwyo grant cadernid busnes o 拢76,500 i naw sefydliad newyddiaduraeth cymunedol annibynnol drwy ein Cronfa Newyddiaduraeth Gymunedol Annibynnol mewn ymateb i argyfwng Covid-19.

"Rydym hefyd wedi cyhoeddi dros 拢18m i gefnogi'r diwydiannau creadigol, diwylliant a'r sector chwaraeon, sydd yn teimlo effaith uniongyrchol Covid-19.

"Rydym hefyd yn ariannu nifer o gyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg drwy Gyngor Llyfrau Cymru, yn cynnwys Golwg 360, Golwg, Y Cymro a Barn.

"Mae cronfa frys Cymru Greadigol yn cynnwys 拢150,000 i Gyngor Llyfrau Cymru i gynnig cefnogaeth hanfodol i'r diwydiant llyfrau yn ystod y cyfnod anodd hwn".