麻豆官网首页入口

Nifer marwolaethau Covid yng Nghymru yn cyrraedd 2,122

  • Cyhoeddwyd
RhonddaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhondda Cynon Taf sydd 芒'r gyfran uchaf o farwolaethau Covid yng Nghymru

Yn 么l ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae cyfanswm o 2,122 o farwolaethau yn ymwneud 芒 coronafeirws wedi bod yng Nghymru.

Mae'r ffigyrau yn cyfeirio at bobl sydd wedi eu cadarnhau gyda Covid-19, neu y credir eu bod wedi ei heintio hyd at 22 Mai.

Yng Nghymru, yn yr wythnos hyd at 22 Mai roedd yna 134 o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 Covid-19.

Hwn yw'r cyfanswm wythnosol isaf ers dechrau Ebrill, ond roedd y feirws yn gysylltiedig 芒 19.4% o'r holl farwolaethau gafodd eu cofnodi.

Dyma'r bedwaredd wythnos yn olynol i'r ffigyrau ostwng.

Daw'r ffigyrau wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi eu ffigwr nhw, sef bod 1,354 o bobl wedi marw gyda'r haint hyd yma (gyda saith yn rhagor ddydd Mawrth), ond maen nhw'n cydnabod bod y gwir ffigwr yn debygol o fod yn uwch na hynny.

Dydd Mawrth adroddwyd bod 67 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru, gyda'r cyfanswm bellach yn 14,121.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y marwolaethau mewn cartefi gofal hefyd wedi gostwng

Mae nifer y marwolaethau sydd wedi eu cofrestri mewn cartrefi gofal hefyd yn gostwng - roedd yna 44 yn yr wythnos yn gorffen 22 Mai.

Mae hynny yn cynrychioli tua un o bob tri o'r holl farwolaethau sydd wedi bod o ganlyniad i'r feirws.

Caerdydd yw'r awdurdod sydd 芒'r nifer uchaf o farwolaethau - 241 - a Cheredigion yr isaf gyda saith.

Rhondda Cynon Taf sydd 芒'r gyfran uchaf, gyda 104.5 o farwolaethau bob 100,000 - cyfanswm o 251 o farwolaethau.