麻豆官网首页入口

'Dim darlun clir' o farwolaethau staff gofalu

  • Cyhoeddwyd
cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatgelu effaith llawn coronafeirws ar gartrefi gofal wedi i'r Gweinidog Iechyd fethu datgelu faint o weithwyr mewn cartrefi sydd wedi marw gyda Covid-19.

Dywedodd Vaughan Gething mewn ateb i gwestiwn nad oedd yn medru rhoi "darlun clir".

Mynnodd Delyth Jewell o Blaid Cymru bod angen y manylion yna er mwyn gwarchod cartrefi rhag ail gopa o'r haint.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio er mwyn casglu'r "wybodaeth fwyaf cywir".

Mewn llythyr at Blaid Cymru dywedodd Mr Gething bod 11 o bobl wedi marw wrth eu gwaith gyda Covid-19 hyd at 1 Mehefin.

Dywedodd: "Mae hyn ond yn cynrychioli pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol o'r bwrdd iechyd gan nad ydym mewn sefyllfa i roi darlun clir o staff cartrefi nyrsio neu gartrefi gofal.

"Rydym hefyd wedi cael gwybod am farwolaeth un gweithiwr oedd wedi'i gomisiynu i weithio mewn gofal iechyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae mwyafrif cartrefi gofal Cymru'n cael eu rhedeg gan ddarparwyr preifat, gyda mwyafrif y staff yn cael eu comisiynu drwy asiantaeth. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cofnodi'r marwolaethau mewn cartrefi gofal, ond does dim ffigwr penodol i staff y cartrefi.

Ychwanegodd Ms Jewell y "dylai Llywodraeth Cymru wybod y ffigyrau yma... faint o staff cartrefi gofal sydd wedi marw a'r gwir effaith y mae Covid-19 wedi ei gael ar ein cartrefi gofal".

"Heb wybod gwir effaith y feirws a heb ddeall difrifoldeb y sefyllfa, sut mae Llywodraeth Cymru'n medru llunio strategaeth i warchod ein cartrefi gofal rhag ail don?"

Dywedodd Mark Turner o undeb Unsain bod yr undeb yn "bryderus nad oes gennym eto ddarlun clir am weithwyr gofal sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19".

"Mae gwasanaethau gofal yng Nghymru ar wasgar, ac yn bennaf yn y sector preifat, ac mae'r argyfwng yma wedi dangos ei bod yn llawer haws rheoli a chofnodi achosion o'r feirws mewn un sefydliad fel y GIG."

Pa ystadegau sydd ar gael?

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn darparu ffigyrau Covid-19 fesul galwedigaeth, gan gynnwys ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, ond ar sail ffigyrau dros Gymru a Lloegr.

Cafodd 131 o farwolaethau ymysg gweithwyr gofal cymdeithasol eu cofnodi hyd at 20 Ebrill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r SYG ystyried a oes modd darparu amcangyfrif o farwolaethau gweithwyr iechyd a gofal ar wahan i Gymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr ymdrech anhygoel a'r aberth y mae ein staff rheng flaen yn rhoi er mwyn delio gyda coronafeirws, ac rydym yn buddsoddi adnoddau ychwanegol i'w gwarchod nhw wrth eu gwaith.

"Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau fod gennym y wybodaeth fwyaf cywir am effaith coronafeirws ar weithwyr iechyd a gofal."