Ystyried dyfodol swyddi dros 70 o newyddiadurwyr Media Wales

Mae hanner gweithwyr cwmni cyhoeddi Reach yng Nghymru wedi cael gwybod fod eu swyddi dan fygythiad, yn 么l undeb yr NUJ.

Ond yn 么l y cwmni, mae'n debygol mai 15 o bobl fydd yn colli eu swyddi wedi ymgynghoriad.

Dywedodd yr undeb y gallai dros 70 o weithwyr golli eu swyddi yn Media Wales, sy'n gyfrifol am rai o bapurau newydd amlycaf Cymru gan gynnwys y Western Mail a'r Daily Post, yn ogystal 芒 gwefan WalesOnline.

Mae aelodau lleol yr NUJ bellach wedi pleidleisio dros gynnig o ddiffyg hyder ym mhenaethiaid Reach.

Ond dywedodd y cwmni y byddai'r newidiadau yn "gwarchod newyddiaduraeth leol a'n brandiau newyddion".

Beio'r pandemig

Mae'r diwydiant papurau newydd wedi dod dan gryn bwysau yn ystod y pandemig coronafeirws, gyda gwerthiant ar i lawr yn sylweddol.

Mewn datganiad dywedodd Reach eu bod yn "parhau i ymgynghori gyda chydweithwyr ac undebau llafur ynghylch y newidiadau arfaethedig".

"Mae'r pandemig wedi gweld cwymp sylweddol mewn hysbysebu lleol, felly mae angen gwneud y newidiadau hyn ac mae angen i ni weithredu'n fwy effeithlon er mwyn gwarchod ein newyddiaduraeth leol a'n brandiau newyddion yn yr hir dymor," meddai'r cwmni.

Ond mae'r NUJ wedi beirniadu Reach, sydd wedi dweud eu bod am dorri 550 o swyddi ar draws y DU, am beidio manylu ar faint o'r rheiny allai fod ymhlith staff yng Nghymru.

Maen nhw hefyd yn anhapus 芒 chynlluniau i gyfuno Media Wales gydag adrannau sy'n gyfrifol am Swydd Caer, canolbarth Lloegr a Sir Lincoln.

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Pencadlys Media Wales yng Nghaerdydd

Dywedodd Martin Shipton, sy'n cynrychioli staff Media Wales yr NUJ, eu bod wedi "synnu" gyda maint y toriadau arfaethedig, gan gynnwys i swydd y prif olygydd.

"Mae staff wedi rhoi popeth yn ystod y pandemig yma i greu cynnyrch o safon i brint ac ar-lein, ac eto dydyn nhw dal heb glywed faint ohonyn nhw mae'r cwmni eisiau diswyddo," meddai Mr Shipton.

Ychwanegodd bod y t卯m rheoli yng Nghaerdydd "dal yn y tywyllwch" ynghylch y newidiadau, sydd wedi'u cynllunio gan benaethiaid yn Llundain.

Bydd yr undeb yn parhau i ymladd dros swyddi ei haelodau, meddai, "er lles dyfodol newyddiaduraeth o safon yng Nghymru".

Nos Wener dywedodd y cwmni ei bod hi'n debygol mai 15 o swyddi fydd yn cael eu colli wedi i'r ymgynghoriad ddod i ben.