Gorfodi rheolau masnach ar Gymru yn 'niweidiol iawn'

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio Rhif 10 bod rhaid i'r gwledydd datganoledig roi s锚l bendith ar unrhyw reolau masnach newydd ar 么l Brexit.

Daw'r sylwadau wedi i San Steffan gyhoeddi cynlluniau ar gyfer rheolau masnach o fewn y Deyrnas Unedig ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fyddai'r cynlluniau'n gofyn i bob un o wledydd y DU dderbyn cynnyrch y lleill - beth bynnag bo'u safonau a'u rheolau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oedden nhw wedi gweld y cynlluniau ac y byddai unrhyw system a fyddai'n cael ei orfodi ar Gymru yn "niweidiol iawn."

Mae Plaid Cymru yn dweud mai ymgais i danseilio democratiaeth a dwyn grym o Gymru yw'r cynlluniau.

Ond y nod - yn 么l Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Alok Sharma - fyddai atal rhwystrau wrth fasnachu nwyddau a gwasanaethau rhwng gwahanol wledydd y DU.

Beth ydy'r cynigion?

O dan gynigion Llywodraeth y DU i'w nodi mewn deddfwriaeth yn ddiweddarach eleni, bydd yr Alban a Chymru yn cael pwerau newydd mewn meysydd gan gynnwys labelu bwyd, cefnogaeth i ffermwyr ac effeithlonrwydd ynni, sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd ar lefel yr UE.

Ond mae San Steffan wedi dweud y bydd yn rhaid i'r gwledydd datganoledig gydnabod rheolau'r pedair gwlad, er mwyn peidio 芒 niweidio masnach yn y DU.

Mewn papur polisi, mae'n dweud y bydd hyn yn sicrhau chwarae teg i bob cwmni waeth pa genedl yn y DU y maen nhw ynddo, er mwyn sicrhau "marchnad fewnol" ledled y DU.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, er eu bod yn cefnogi egwyddor masnach di-rwystr, bod yn rhaid i'r cenhedloedd datganoledig gytuno ar unrhyw reolau.

Dywedodd llefarydd: "Rhaid i unrhyw system newydd gael goruchwyliaeth annibynnol a datrys anghydfod.

"Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU wedi llwyddo i rannu'r papur gyda ni, ac nid yw gweinidogion Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau diweddar 芒 Llywodraeth y DU ar y materion hyn.

"Bydd unrhyw ymgais i orfodi system yn unochrog yn niweidiol iawn."

Ond dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, fod Cymru yn "rhan hanfodol" o farchnad sengl y DU a bod 75% o nwyddau Cymru yn cael eu prynu yng ngweddill y DU.