麻豆官网首页入口

Llai o ddiagnosis diabetes Math 1 ymhlith plant

  • Cyhoeddwyd
DiabetesFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae rhieni'n cael eu hannog i ofyn am gyngor meddygol ar frys yn ystod y pandemig coronafeirws os yw eu plant yn dangos symptomau diabetes Math 1.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gall plant sydd heb gael diagnosis ddatblygu cetoasidosis diabetig (DKA) - cyflwr lle mae sylweddau niweidiol o'r enw cetonau yn casglu yn y gwaed o ganlyniad i diabetes.

Gall y cyflwr yna beryglu bywyd os nad yw'n cael ei drin.

Pryder meddygon yw bod llai o blant yng Nghymru yn mynd atyn nhw gyda symptomau diabetes yn ystod y cyfnod clo, a hynny am nad yw rhieni'n ymwybodol o'r symptomau neu'n ofn gofyn am gymorth meddygol yn ystod y pandemig.

Prin yw'r nifer sy'n marw o diabetes Math 1 mewn plant gan bod modd ei drin os yw'r symptomau'n cael eu nodi.

Ymhlith y symptomau mae syched, mynd i'r t欧 bach yn amlach, blinder a cholli pwysau yn gyflym.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Trudi Sara yn annog unrhyw un sydd yn poeni i fynd i weld ei meddyg teulu cyn gynted 芒 phosib

'O fewn munudau'

Cafodd mab Trudi Sara, Harrison sy'n wyth oed, ddiagnosis o diabetes Math 1 ym mis Mai. Dechreuodd wlychu ei wely yn y nos, ond i ddechrau roedd ei fam yn credu mai'r pandemig oedd yn gyfrifol am y newid yn ei ymddygiad.

Dywedodd Ms Sara, o Gas-gwent: "Bu ambell 'ddamwain' fach ar rai nosweithiau dros gyfnod o 'chydig wythnosau... roedd e'n yfed mwy a mynd i'r t欧 bach yn amlach, ond roedd y tywydd yn boeth felly nes i ddim meddwl mwy am y peth.

"Ond wedyn roedd y 'damweiniau' yn digwydd yn amlach. Ro'n i'n meddwl bod haint wrin arno ac fe ffoniais i'r meddyg."

Aeth 芒 sampl wrin am brawf ac fe ffoniodd y meddyg yn 么l o fewn munudau i ddweud wrthi am fynd 芒 Harrison i mewn ar frys.

Daeth cadarnhad drwy brawf gwaed fod diabetes Math 1 arno, a chafodd fynd i'r ysbyty yr un diwrnod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Harrison yn yfed mwy ac yn mynd i'r t欧 bach mwy aml ond wnaeth ei fam ddim meddwl mai diabetes oedd ganddo

Ychwanegodd Ms Sara: "Roedden ni mor lwcus. Cafodd Harrison ddiagnosis tua wythnos cyn y rhan fwyaf o blant pan mae'r symptomau'n mynd yn llawer gwaeth.

"Os ydych chi'n bryderus, ffoniwch eich meddyg a siarad gyda rhywun. Gore po gynta' gewch chi ddiagnosis diabetes Math 1."

Cwymp yn y ffigyrau

Yn 么l Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc (CYPWDN) fe wnaeth 33 o blant gael symptomau newydd am diabetes Math 1 rhwng diwedd Mawrth a chanol Mehefin eleni. Roedd 10 ohonyn nhw wedi datblygu DKA.

Mae hynny'n cymharu gyda 48 diagnosis dros yr un cyfnod yn 2019, lle roedd 13 wedi datblygu DKA.

Cadeirydd CYPWDN yw Dr Davida Hawkes, sydd hefyd yn ymgynghorydd paediatreg yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, a dywedodd nad oedd eto'n eglur os mai'r pandemig oedd yn gyfrifol am y cwymp yn y niferoedd.

Dywedodd: "Rydym yn credu fod teuluoedd wedi bod yn nerfus am ddod i gysylltiad 芒 meddygon, boed hynny'n feddyg teulu neu fynd i'r ysbyty, oherwydd pryder am coronafeirws, yn enwedig ar ddechrau'r cyfnod clo.

"Mae'n bryder i ni nad yw teuluoedd yn ceisio cael cymorth i blant sydd efallai gyda symptomau diabetes."