麻豆官网首页入口

Canslo pantos y Nadolig yn ergyd pellach i theatrau

  • Cyhoeddwyd
Pantomeim Theatr Clwyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pantomeim Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug y llynedd. Maen nhw eisoes wedi canslo eu pantomeim y Nadolig hwn

Bydd effaith Covid-19 ar theatrau Cymru yn para am flynyddoedd ac yn gwaethygu wrth i bantomeimiau gael eu canslo, yn 么l rheolwr celfyddydau.

Er bod ymarferion pantomeim fel arfer yn dechrau ym mis Awst, mae'r rhan fwyaf o leoliadau bellach wedi gohirio adloniant Nadoligaidd eleni.

Dywedodd un pennaeth diwylliannol yn ne Cymru, Richard Hughes, y byddai "hyder cwsmeriaid" yn pennu cyflymder ailagor y flwyddyn nesaf.

Yn draddodiadol mae pantomeimiau yn cynhyrchu elw sylweddol i theatrau, sy'n defnyddio'r arian i ddigolledu perfformiadau llai poblogaidd eraill.

Mae Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug a Glan yr Afon yng Nghasnewydd wedi canslo eu pantomeimiau, er nad ydy Theatr Newydd Caerdydd a Grand Abertawe wedi dilyn yr un trywydd yn swyddogol eto.

Ond heb ymlacio mesurau pellhau cymdeithasol, mae'n annhebygol y bydd y panto traddodiadol yn gallu bwrw ymlaen.

'Amser trist i'r theatr'

Roedd Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl i fod i gynnal ei 50fed tymor panto gyda chynhyrchiad o Aladdin adeg y Nadolig.

Richard Hughes yw prif weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy'n rhedeg lleoliadau gan gynnwys y Grand Pavilion.

Gwnaeth y penderfyniad i ganslo pob digwyddiad ym mis Mawrth pan ddaeth yn amlwg y byddai rheolau pellhau cymdeithasol yn ei gwneud yn amhosib cynnal perfformiadau theatr eleni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Does dim golau ar ddiwedd y twnnel," meddai Richard Hughes

Dywedodd Mr Hughes ei fod yn "amser trist" i'r theatr, "ond rydyn ni'n deall pam mae'n rhaid i hyn ddigwydd".

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y persbectif bob amser bod hyn i gyd yn cael ei wneud i'r pwrpas cywir, sef brwydro yn erbyn y feirws hwn," meddai.

"Wrth symud ymlaen, yr ansicrwydd sy'n anodd delio ag ef.

"Does dim golau ar ddiwedd y twnnel o ran pryd y gallai theatrau ddychwelyd, heb s么n am ddychwelyd heb bellhau cymdeithasol, a dyna'r unig ffordd y byddwn ni mewn gwirionedd yn gallu gweithredu'n economaidd wrth symud ymlaen."

Yn y cymoedd, i'r gogledd o Borthcawl, mae'r darlledwr a'r diddanwr Owen Money yn trefnu pantomeimiau ar raddfa llai.

Mae'r perfformiwr wedi bod yn chwarae i theatrau llawn mewn lleoliadau fel Sefydliad y Glowyr Coed Duon a'r Met yn Abertyleri ers blynyddoedd gyda'i gwmni Rainbow Valley Productions.

Y Nadolig hwn roedd i fod i chwarae'r Barwn mewn cynhyrchiad o Cinderella a fyddai'n cael ei lwyfannu 98 o weithiau mewn lleoliadau ledled de Cymru.

Mae llawer wedi canslo, ond mae'n gobeithio y byddai'r rhai sydd heb yn ystyried rhedeg sioe ar raddfa llai i gynulleidfaoedd wedi eu pellhau'n gymdeithasol.

'500 o bobl y dydd'

Mae'n derbyn na fyddai'n panto fel rydyn ni'n ei wybod, ond byddai'n cadw peth o'r hud.

"Mae'n dibynnu ar faint o bobl maen nhw'n mynd i'w gadael i mewn i'r lleoliad. Petai'n nhw'n gadael 100 i mewn, gallen ni roi rhywbeth at ei gilydd," meddai.

"Mae gen i syniad o [lwyfannu] adolygiad 45 munud o banto trwy'r blynyddoedd, lle rydyn ni'n cynnwys y cawr, y carped hud, neu'r goets sy'n mynd 芒 Cinderella i ffwrdd.

"Gyda phecyn 45 munud, gallem wneud hynny bum gwaith y diwrnod, sy'n golygu 500 o bobl y dydd.

"Byddai'n rhaid i ni dorri lawr ar y staff, peidio 芒 chael gormod o actorion, ond byddai werth ei wneud i bawb os yn bosib."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Owen Money yn obeithiol y bydd modd parhau gyda rhai o'r pantomeimiau

Mae Mr Money yn ofni y gall cynulleidfaoedd benderfynu peidio 芒 dychwelyd y flwyddyn nesaf os bydd panto yn cael ei ganslo yn llwyr.

"Mae pobl yn tueddu i fod eisiau cadw pethau fel y maen nhw. Byddan nhw'n dweud: 'Aethon ni ddim i'r panto y llynedd, newn ni ddim trafferthu eleni'," meddai.

"Rwy'n credu y bydd yn cymryd cryn dipyn o flynyddoedd i fynd yn 么l i'r man lle oedden ni.

"Nawr, mae'n amser aros a gweld, a dweud y gwir. Rwy'n gobeithio na fyddan nhw'n colli hud y panto."

Colled o 拢90m

Mae dadansoddwyr yn rhagweld y byddai theatrau'r DU yn colli 拢90m pe bai tymor y pantomeim yn cael ei ganslo'n llwyr.

Ar gyfer Pafiliwn y Grand Porthcawl mae canslo Aladdin yn golygu colli tua 拢250,000 drwy'r swyddfa docynnau.

"Mae panto da yn cefnogi blwyddyn ariannol dda i ni yma," meddai Mr Hughes.

"Dyma'r cynhyrchiad mwyaf rydyn ni'n ei wneud. Mae'n cefnogi llawer mwy na'r cast ar y llwyfan yn unig, ond mae yna'r criw, y technegwyr goleuo, dylunwyr, dawnswyr, cerddorion.

"Mae panto yn cefnogi'r economi greadigol honno mewn ffordd nad oes unrhyw gynhyrchiad arall, yn 么l pob tebyg, yn gwneud."

Tra bod y Grand Pavilion ymhlith cyfres o leoliadau i gadarnhau'n gyflym y byddai cynyrchiadau'n cael eu canslo, mae eraill eto i ohirio eu sioeau.

Hyd at ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, roedd yn dal yn bosibl archebu tocynnau ar gyfer pantomeim y Theatre Newydd yng Nghaerdydd.