麻豆官网首页入口

Nifer marwolaethau wythnosol Covid-19 yn gostwng i 14

  • Cyhoeddwyd
Profion coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y marwolaethau wythnosol sy'n gysylltiedig 芒 Covid-19 yng Nghymru wedi gostwng i 14, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Am yr ail wythnos yn olynol, yng ngogledd Cymru oedd mwyafrif y marwolaethau ble gafodd y feirws ei grybwyll yn y saith diwrnod hyd at 14 Awst.

Roedd 11 o'r marwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gan gynnwys saith yn yr ysbyty yn Wrecsam a dau achos yn Sir Conwy.

Am y drydedd wythnos yn olynol, Wrecsam oedd 芒'r nifer uchaf o farwolaethau'n ymwneud 芒 Covid-19 o blith holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi o fewn ardaloedd pedwar bwrdd iechyd - Aneurin Bevan, Cwm Taf Morgannwg, Powys a Bae Abertawe.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

2,557 yw cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru hyd at 14 Awst ac wedi'u cofnodi hyd at 22 Awst, medd yr ONS, sy'n cynnwys marwolaethau ble mae meddyg yn amau bod claf 芒 coronafeirws.

Maen nhw hefyd yn cynnwys marwolaethau yn y cartref, cartrefi gofal a hosbisau, nid dim ond y rheiny sydd wedi cael prawf positif fel yn achos ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fe gafodd un farwolaeth ei chofnodi mewn cartref gofal yng Nghymru yn yr wythnos dan sylw.

Mwy o farwolaethau na'r arfer

Ar draws Cymru, mae nifer y marwolaethau ychwanegol - sy'n cymharu niferoedd pob marwolaeth o ba bynnag achos meddygol o fewn wythnosau penodol o'r flwyddyn - 9.4% yn uwch na'r arfer.

617 oedd cyfanswm y marwolaethau o bob achos a chlefyd - 53 yn uwch na'r cyfartaledd dros bum mlynedd. Roedd y 14 marwolaeth Covid yn 2.3% o'r cyfanswm hwnnw.

Mae'r ONS yn awgrymu mai tymereddau uchel sydd wrth wraidd y nifer uwch o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a Lloegr.

Roedd ffigwr Cymru 10 yn is nag yn ystod yr wythnos flaenorol.

Yn Lloegr roedd yna 125 o farwolaethau, gan gynnwys 33 yn y gogledd-orllewin. Roedd yna bedair marwolaeth yng Ngogledd Iwerddon a thair yn Yr Alban.